Philip II, brenin Macedon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Philip II, brenin Macedon''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: '''Φίλιππος Β'''' ([[383 CC]] - [[336 CC]]) oedd brenin ([[basileus]]) teyrnas [[Macedon]] o [[359 CC]] hyd ei farwolaeth. Ef a osododd sylfeini grym Macedonia, a ddefnyddiwyd gan ei fab, [[Alecsander Fawr]], i goncro [[Ymerodraeth Persia]].
 
Roedd Philip yn fab ieuengaf i [[Amyntas III, brenin Macedon]] ac Eurydice. Bu'n wysrlonwystlon yn [[Thebai]] pan oedd yn ieuanc, yn y cyfnod pan oedd Thebai yn ddinas gryfaf Groeg, a chafodd ei addysgu yno gan y cadfridog enwog [[Epaminondas]]. Dychwelodd i Facedonia yn [[364 CC]], ac wedi marwolaeth ei frodyr Alexander II a Perdiccas III, daeth yn frenin yn 359 CC.
 
Canolbwyntiodd Philip ar gryfhau'r fyddin, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros y bobloedd o'i amgylch. Yn [[355 CC]], priododd [[Olympias]], merch brenin y [[Molossiaid]]. Ganed Alecsander iddynt y flwyddyn wedyn. Yn [[354 CC]], collodd un llygad wrth warchae ar ddinas Methone, oedd ym meddiant [[Athen]]. Yn raddol, ymestynnodd ei awdurdod dros ddinasoedd Groeg, ac yn [[342 CC]] ymgyrchodd yn erbyn y [[Scythiaid]], gan gipio Eumolpia a'i hail-enwi yn ''Philippopolis'' ([[Plovdiv]] heddiw).