Will & Grace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Mae ''Will & Grace'' yn rhaglen comedi boblogaidd o'r Unol Daleithiau. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar NBC o 1998 tan 2006. Ennillodd y sioe [[Gwobr E... |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Mae ''Will & Grace'' yn rhaglen [[gomedi|comedi]] boblogaidd o'r [[Unol Daleithiau]]. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar [[NBC]] o [[1998]] tan [[2006]]. Ennillodd y sioe [[Gwobr Emmy|Wobr Emmy]]. Lleolir y rhaglen yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]] ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr [[hoyw]] a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw [[heterorywiol]] [[Iddewon|Iddewig]] sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.
Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, ennillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.
Ffilmiwyd Will & Grace o flaen cynulleidfa stiwdio fyw (y rhan fwyaf o benodau a golygfeydd) ar nosweithiau Mawrth ar Lwyfan 17 yng Nghanolfan Stiwdios CBS.
Ar hyn o bryd, mae'r ystafell lle trigai Will a Grace mewn arddangosfa yn Llyfrgell Coleg Emmerson. Rhoddwyd y set iddynt gan grëwr y gyfres, Max Mutchnik.
|