Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Will & Grace"

Ychwanegwyd 44 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
cat
(cat)
Mae ''Will & Grace'' yn rhaglen [[gomedi|comedi|gomedi]] boblogaidd o'r [[Unol Daleithiau]]. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar [[NBC]] o [[1998]] tan [[2006]]. Ennillodd y sioe [[Gwobr Emmy|Wobr Emmy]]. Lleolir y rhaglen yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]] ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr [[hoyw]] a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw [[heterorywiol]] [[Iddewon|Iddewig]] sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.
 
Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, ennillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.
 
Ar hyn o bryd, mae'r ystafell lle trigai Will a Grace mewn arddangosfa yn Llyfrgell Coleg Emmerson. Rhoddwyd y set iddynt gan grëwr y gyfres, Max Mutchnik.
 
[[Categori:Rhaglenni teledu Americanaidd]]