Perdiccas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cadfridog [[Macedon]]aidd dan [[Alecsander Fawr]], ac yn ddiweddarach rheolwr teyrnas Macedon, oedd '''Perdiccas''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Περδίκας'', ''Perdikas'' (bu farw [[321 CC]] neu [[320 CC]]).
 
Yn ôl yr hanesydd [[Arrian]] roedd yn fab i Orontes. Daeth i sylw yn ystod concwest [[Thebai]] yn [[335 CC]], pan glwyfwyd ef yn ddifrifol. Roedd yn bennaeth rhan o'r fyddin yn ystod ymgyrchoedd Alecsander yn India, a phan fu farw [[Hephaestion]] yn [[324 CC]] penodwyd ef yn bennaeth marchogion y Cymdeithion.