Susa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Hen ddinas yn yr hyn sy'n awr yn [[Iran]] oedd '''Susa''' ([[Hebraeg]] '''שושן''', '''Shushan'''; [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Σοῦσα, '''Sousa'''; [[Lladin]] '''Susa'''). Ar whahanol adegau, bu'n brifddinas yr [[Elam]]itaid, [[Ymerodraeth Persia]] ac ymerodraeth [[Parthia]]. Saif tua 250 km (150 milltir) i'r dwyrain o [[Afon Tigris]]; heddiw saif tref [[Shush, Iran|Shush]] ar y safle.
 
Roedd Susa yn un o ddinasoedd hynaf y byd, efallai yn mynd yn ôl i tua 4200 CC. Daeth yn brifddinas Ymerodraeth Elam, ac mae'n ymddangos yng ngofnodion hynadhynaf y [[Sumer]]iaid. Ceir nifer o gyfeiriadau at SudaSusa yn [[y Beibl]] hefyd; yma y lleolir digwyddiadau [[Llyfr Esther]], a cheir beddrod yma y dywedir ei fod yn fedd [[Daniel]].
 
Tua 2330 CcCC, ymgorfforodd [[Sargon Fawr]] Susa yn yr [[Ymerodraeth Acadaidd]], ond erbyn tua 2004 CC, roedd eto yn brifddinas yr Elamitiaid. Yn [[647 CC]], dinistriwyd y ddinas gan frenin [[Assyrian]], [[Assurbanipal]], ac yn [[538 CC]] cipiwyd hi gan y Persiaid dan [[Cyrus Fawr]]. Dan fab Cyrus, [[Cambyses II]], symudwyd prifddinas yr ymerodraeth o [[Pasargadae]] i Susa.
 
Yn [[331 CC]], cipiwyd y ddinas gan [[Alecsander Fawr]], ac wedi marwolaeth Alecsander, daeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Seleucaidd]] dan yr enw '''Seleukeia'''. Pan enillodd Parthia ei hannibyniaeth, daeth Susa yn un o'r ddwy brifddinas, gyda [[Ctesiphon]]. Cipiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Rhufeinig [[Trajan]] yn [[116]]. Dinistriwyd y ddinas gan fyddinoedd [[Islam]] yn [[638]], ac eto gan y [[Mongoliaid]] yn 1218. Wedi hynny, gadawyd hi i adfeilio.