Diwydiant gwlân Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dichon fod cynhyrchu [[gwlân]] o gnu [[dafad|defaid]] yn weithgaredd economaidd yn y wlad ers canrifoedd lawer. Cafodd y "diwydiant bwthyn" hwnnw hwb mawr yn y 12fed ganrif gyda sefydlu abatai'r [[Sistersiaid]] yng Nghymru. Un o brif weithgareddau economaidd yr abatai hyn, fu'n perchen tiroedd eang, oedd magu defaid a chynhyrchu gwlân.
 
Yn y 18fed ganrif a'r 19eg, tyfodd y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru. Roedd [[gweu]] [[hosan]]au gwlân yn gymorth i nifer o deuluoedd amethyddol gael tipyn o bres dros y gaeaf, gyda'r merched a gwragedd yn gwneud y gwaith fel arfer. Un o'r canolfannau mawr oedd [[Meirionnydd]], yn enwedig yn ardaloedd [[Y Bala]] a [[Dolgellau]]. Roedd canolfannau eraill yn erbyn y 1850au cynnwys ardal [[Y Drenewydd]] a [[Llanidloes]] ym [[Maldwyn]], cefn gwlad [[Llangollen]], tref [[Aberhonddu]], yr ardal o gwmpas [[Castellnewydd Emlyn]] a [[Llanbedr Pont Steffan]] yn ne [[Ceredigion]]] ac ardal [[Caerfyrddin]].
 
Sedydlwyd melinau a ffatrioedd gwlân yn nes ymlaen, e.e. yn [[Y Drenewydd]], [[Powys]] ac ym mhentref [[Trefriw]], [[Dyffryn Conwy]]. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn atyniadau twristaidd heddiw.
 
Gellir dysgu am hanes y diwydiant gwlân yn [[Amgueddfa Wlân Cymru]]. Fe'i lleolir ym mhentref [[Dre-fach Felindre]], oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne-orllewin Cymru, ger [[Castellnewydd Emlyn]], tua 16 milltir i'r gorllewin o [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]].
 
==Llyfryddiaeth==
* Ben Bowen Thomas, ''Braslun o hanes economaidd Cymru'' (Caerdydd, 1941)
 
==Gweler hefyd==
* [[Gwlana]]
* [[Melin wlân]]
 
 
{{Economi Cymru}}