Trychineb naturiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
=
Llinell 28:
Yn ystod daeargryn mae'r dŵr sydd yn y ddaear yn cael ei dynnu i'r wyneb gan danseilio adeiladau a gwneud iddynt suddo a chwympo. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd lle mae'r creigiau'n wan a meddal. Mae priddoedd yn colli ei nerth i ddal dŵr wrth i'r gronynnau pridd cael eu hysgwyd.
 
My name is Sam Milligan and i like Daf Stephens` ginger pubes. Add me on sc; samboy9
== Peryglon Dŵr ==
=== Llifogydd ===
Weithiau mae gormodedd o law yn disgyn ar dir dirlawn gan achosi i lefel afonydd fod yn uchel iawn. Pan mae yna ormod o ddŵr mewn afon, mae'n gorlifo gan lifogi'r ardal leol. Gall yr ardaloedd yma fod yn aneddiadau a gall gael effaith ar nifer o bobl. Wrth i systemau carthffosiaeth cael eu gorlifo, gall hyn ledaeni afiechydon megis colera sy'n beryglus i bobl.
 
=== Echdoriadau llyn ===
Mae dŵr yn amsugno C0<sub>2</sub>, ac felly pan leolir aneddiad yn agos i lyn mae'r crynodiad CO<sub>2</sub> yn eithaf uchel. Mae'r trychineb yma yn digwydd pan mae C0<sub>2</sub> yn echdorri yn gyflym o'r llyn ac yn gwenwyno anifeiliaid, pobl a phlanhigion.
 
[[Delwedd:Avalanche on Everest.JPG|bawd|chwith|250px|Eirlithiad cyferbyn i [[Mynydd Everest]].]]
=== Eirlithrad ===
Dyma beth sy'n digwydd pan ceir gormodedd o eira yn casglu ar ben mynydd ac yn dymchwel gan greu llif cyflym o eira ac iâ. Nid oedd yna berygl ers talwm oherwydd nid oedd y mynyddoedd yn breswylied. Ar y llaw arall, erbyn hyn, mae yna nifer o aneddiadau a chyrchfannau uwch yn y mynyddoedd ar gyfer gweithgareddau gaeaf fel sgïo. Mae hyn yn cynyddu'r risg o farwolaeth pan mae eirlithrad yn digwydd.
 
=== Tsunami ===
Mae tsunami yn berygl eilaidd sy'n digwydd wrth i ddirgryniadau daeargryn greu tonnau ar y môr sy'n gorlifo'r tir. Gall hyn ladd pobl sydd ar yr arfordir pan ddaw'r tonnau.
 
== Tywydd ==