Trychineb naturiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
l |
Atcovi (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.219.232.154 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys. |
||
Llinell 5:
== Peryglon Tectonig ==
=== Llifoedd Lafa ===
[[Delwedd:Aa large.jpg|bawd|dde|274px|Lafa yn llifo'n araf yn [[Hawaii]]]]
[[Lafa]] yw [[magma]] sy'n llifo ar wyneb y ddaear. Fel rheol, cysylltir lafa gydag ymylon adeiladol (''gweler:[[Ffin Plât tectonig]]'') lle mae echdoriadau yn llai dinistriol heb fod yn beryg i fywydau. Mae hyn oherwydd bod lafa'n oeri'n gyflym a'i symudiad felly yn araf. Fodd bynnag, gall llifoedd lafa ddifrodi eiddo a thir ffermio. Os yw'r lafa yn llifo allan o agen, gall ffurfio [[llwyfandir lafa]].
=== Lludw ===
Dyma sy'n ffurfio'r cymylau tywyll sydd i'w gweld yn ystod echdoriadau.
=== Llif pyroclastig ===
[[Delwedd:Pyroclastic flows at Mayon Volcano.jpg|bawd|dde|280px|Llif pyroclastig yn [[Pilipinas]]- 1984]]
Gall echdoriadau ffrwydrol chwythu allan cymysgedd o nwy a cherrig poeth (teffra). Adnabyddir hyn fel llif pyroclastig. Gall tymheredd o fewn llif pyroclastig gyrraedd tymereddau mor uchel â 800 °C a gall deithio ar gyflymder o 200 km/awr wrth iddo lifo lawr ochor y llosgfynydd.
Llinell 26 ⟶ 25:
=== Hylifoli ===
Yn ystod daeargryn mae'r dŵr sydd yn y ddaear yn cael ei dynnu i'r wyneb gan danseilio adeiladau a gwneud iddynt suddo a chwympo. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd lle mae'r creigiau'n wan a meddal. Mae priddoedd yn colli ei nerth i ddal dŵr wrth i'r gronynnau pridd cael eu hysgwyd.
== Peryglon Dŵr ==
=== Llifogydd ===
Weithiau mae gormodedd o law yn disgyn ar dir dirlawn gan achosi i lefel afonydd fod yn uchel iawn. Pan mae yna ormod o ddŵr mewn afon, mae'n gorlifo gan lifogi'r ardal leol. Gall yr ardaloedd yma fod yn aneddiadau a gall gael effaith ar nifer o bobl. Wrth i systemau carthffosiaeth cael eu gorlifo, gall hyn ledaeni afiechydon megis colera sy'n beryglus i bobl.
=== Echdoriadau llyn ===
Mae dŵr yn amsugno C0<sub>2</sub>, ac felly pan leolir aneddiad yn agos i lyn mae'r crynodiad CO<sub>2</sub> yn eithaf uchel. Mae'r trychineb yma yn digwydd pan mae C0<sub>2</sub> yn echdorri yn gyflym o'r llyn ac yn gwenwyno anifeiliaid, pobl a phlanhigion.
[[Delwedd:Avalanche on Everest.JPG|bawd|chwith|250px|Eirlithiad cyferbyn i [[Mynydd Everest]].]]
=== Eirlithrad ===
Dyma beth sy'n digwydd pan ceir gormodedd o eira yn casglu ar ben mynydd ac yn dymchwel gan greu llif cyflym o eira ac iâ. Nid oedd yna berygl ers talwm oherwydd nid oedd y mynyddoedd yn breswylied. Ar y llaw arall, erbyn hyn, mae yna nifer o aneddiadau a chyrchfannau uwch yn y mynyddoedd ar gyfer gweithgareddau gaeaf fel sgïo. Mae hyn yn cynyddu'r risg o farwolaeth pan mae eirlithrad yn digwydd.
=== Tsunami ===
Mae tsunami yn berygl eilaidd sy'n digwydd wrth i ddirgryniadau daeargryn greu tonnau ar y môr sy'n gorlifo'r tir. Gall hyn ladd pobl sydd ar yr arfordir pan ddaw'r tonnau.
== Tywydd ==
|