Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Bywyd Personol: clean up using AWB |
B Ardddull a manion sillafu, replaced: ym Mhrydain → yng ngwledydd Prydain, ym mis Chwefror → yn Chwefror , ym mis Hydref → yn Hydref , ym mis Tachwedd → yn Nhachwedd (2), ym mis Rhagfyr → yn Rhagfyr , using AWB |
||
Llinell 38:
=== 2003-2004: ''Première'' a ''Second Nature'' ===
Daeth Jenkins i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf pan ganodd hi yn Abaty [[San Steffan]] ar gyfer jiwbili arian y Pâb John Paul II
Arhosodd ei halbwm cyntaf, ''Première'', am gyfanswm o wyth wythnos ar frig y siart glasurol Prydeinig, gan ei gwneud y soprano i werthu gyflymaf erioed. Yn fuan iawn, Jenkins oedd yr artist glasurol gyntaf i gael dwy alwbm rhif un yn yr un flwyddyn gyda Première a Second Nature. Mae hi bellach yr unig berson i fod yn rhif un y siart glasurol a chael dau albwm yn y siart ar yr un pryd. Cyrhaeddodd Second Nature rif 16 yn y siart bop y Deyrnas Unedig ac yn ddiweddarach cafodd ei enwi fel Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Claurol y BRITs. Dewisir y wobr hon gan wrandawyr [[Classic FM]].
Llinell 46:
=== 2005 - 2006: Living a Dream a Serenade ===
Ar yr 22ain o Ionawr 2005, canodd Jenkins mewn Cyngerdd Elusennol i'r [[Tsunami]] yng [[Nghaerdydd]] er mwyn codi arian i ddioddefwyr daeargryn Môr India yn 2004.
Ym
Trydydd albwm Jenkins oedd Living A Dream (2005). Ar yr albem perfformiodd fersiwn o gân Dolly Parton "I Will Always Love You" yn Eidaleg - "L'Amore Sei Tu". Cafodd y gân hon ei pherfformio am y tro cyntaf ym Mhriordy Nostell, Gorllewin [[Swydd Efrog]] ar yr 28ain o Awst 2005. Pan gafodd yr albwm ei rhyddhau, roedd Jenkins yn rif un, dau a thri o'r siart albymau clasurol yn sgîl llwyddiant ei halbymau blaenorol hefyd. Arhosodd yr albwm yn rhif un am bron i flwyddyn a chyrhaeddodd rif pedwar yn y siart albymau [[pop]]. Ailadroddwyd yr un llwyddiant gyda'i halbwm Living a Dream pan ennillodd wobr BRIT clasurol am Albwm y Flwyddyn am yr eildro. Mae Jenkins bellach yr unig artist benywaidd i ennill dau wobr BRIT clasurol dwy flynedd yn olynol.
Llinell 54:
Perfformiodd Jenkins gyda'r [[Blue Man Group]] o flaen y Frenhines yn Mherfformiad y Royal Variety ar yr 21ain o Dachwedd 2005 pan ganodd "I Feel Love". Gwisgodd Jenkins ffrog amryliw gyda goleuadau'n ffalchio arno. Perfformiodd yng nghyngerdd [[Gwobr Heddwch Nobel]] yn [[Oslo]], [[Norwy]] ar yr 11eg o Ragfyr 2005 hefyd.
Cafodd ei phedwaredd albwm stiwdio, Serenade, ei ryddhau ar y [[6 Tachwedd|6ed o Dachwedd]] [[2006]] ac aeth i rif 5 yn y brif siart Brydeinig gan werthu mwy na 50,000 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Golygodd hyn mai dyma'r CD clasurol i werthu fwyaf
=== 2007 - presennol: Rejoice ===
Llinell 64:
Gwnaeth ymddangosiad cameo hefyd mewn dwy raglen o [[Emmerdale]] ar yr 16eg a'r 17eg o Fai 2007 pan agorodd ffair y pentref. Ym mis Gorffennaf, perfformiodd Jenkins yn fyw ar ''Saving Planet Earth'' ar BBC1 er mwyn codi arian i Gronfa Byd Natur y [[BBC]]. Yn ddiweddarach yr un mis, cynhaliwyd cyngerdd arbennig ym [[Parc Margam|Mharc Margam]] yn Ne Cymru pan berfformiodd Jenkins yno. Galwyd y cyngerdd yn ''Katherine In The Park'' a gwelwyd Jenkins yn perfformio ochr yn ochr â [[Paul Potts]] a Juan Diego Florez. Rhoddodd Jenkins wahoddiad personol i Potts i ganu "Nessun Dorma" yn y cyngerdd. Ar y 12fed o Awst 2007, ymddangosodd Jenkins ar raglen [[ITV]] ''Britain's Favourite View'' lle enwebodd Jenkins Bae ''Three Cliffs'' ar benrhyn [[Gŵyr]]. Aeth Jenkins a'r camerâu am daith o amgylch y bae gan esbonio pam fod gan y bae y fath arwyddocâd sentimental iddi. Meddai "I grew up on the edge of the Gower, but it was still a holiday place for our family. We’d go on weekend breaks to Three Cliffs Bay – six miles down the road! That’s how gorgeous it is." Ym mis Medi, modelodd Jenkins ar bompren yn "Fashion Relief" Naomi Campbell er mwyn codi arian at achosion da. Gwisgodd ffrog [[Julien MacDonald]] a brynwyd yn ddiweddarach gan Syr Phillip Green am £10,000. Ar y 21 o Hydref 2007, canodd Jenkins "Time to Say Goodbye" gydag [[Andrea Bocelli]] ar raglen [[Strictly Come Dancing]].
Cydweithiodd Jenkins gyda [[Darcey Bussell]] hefyd, gan drefnu cynhyrchiad llwyfan o ddawns a cherddoriaeth er mwyn talu teyrnged i'r sêr a'u hysbrydolodd, gan gynnwys [[Madonna]] a [[Judy Garland]]. Gyda chyllid o £1 miliwn, lansiwyd y sioe o'r enw "Viva la Diva" ym [[Manceinion]] ym mis [[Tachwedd]]. Er mwyn paratoi ar gyfer y sioe, dysgodd Jenkins i ddawnsio tap, gan dreulio wyth awr yr wythnos mewn stiwdio ddawns yn dysgu'r coreograffeg ac yn rhedeg tair milltir bob dydd er mwyn bod yn heini. Perfformiodd Jenkins a Bussell ran o'r sioe o flaen Brenhines Lloegr yn y 79fed ''Royal Variety Performance'' a ddarlledwyd ar y teledu ar 9 Rhagfyr 2007. Ar y 15 Rhagfyr, perfformiodd Jenkins ar raglen derfynol y gyfres [[The X Factor]]. Canodd ddeuawd gyda'r cystadleuydd [[Rhydian Roberts]] gan ganu "You Raise Me Up". Perfformiodd "[[Hen Wlad Fy Nhadau]]" hefyd ar yr 17 Mai 2008 yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth Cwpan yr FA rhwng [[Dinas Caerdydd]] a [[Portsmouth]]. Hi oedd y person cyntaf i wneud hyn yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA.
Llinell 77:
[[Delwedd:Haypresent.jpg|bawd|chwith|Gethin Jones.]]
Wedi i Jenkins a Dame [[Vera Lynn]] gael eu gweld ar lwyfan gyda'i gilydd yn canu "We'll Meet Again" i dathlu 60 mlynedd ers Diwrnod VE, rhoddwyd y ffugenw "the new Forces' Sweetheart" i Jenkins, sef y ffugenw a roddwyd i Lynn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dywedodd Lynn wrth Jenkins y dylai fynd allan i ddiddanu'r lluoedd arfog a chytunodd Jenkins i wneud hynny.
Bu Jenkins mewn perthynas am bedair mlynedd gyda'r cerddor a chyn-aelod o'r band ''Worlds Apart'', Steve Hart. Fodd bynnag, cadwodd y ddau y manylion am eu perthynas yn gyfrinachol a phur anaml y gwelwyd y ddau gyda'i gilydd. Cadarnhaodd Jenkins
Ar ôl hyn , bu'n canlyn y cyflwynydd teledu o Gymru, [[Gethin Jones]]. Dywedodd
Priododd Jenkins y cyfarwyddwr ffilm Americanaidd [[Andrew Levitas]] ar 27 Medi 2014, ym Mhalas Hampton Court, Llundain.
|