Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 12:
Er gwaethaf eu hatgasedd o ymddangos ar deledu Prydeinig, gwnaeth y band eu hymddangosiad teledu mwyaf pan ymddangosasant ar Saturday Night Live ar yr 11eg o Fawrth 2006 er mwyn dechrau eu taith o amgylch y Deyrnas Unedig. Gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y daith hon. Roedd eu perfformiad yn cynnwys y caneuon "I Bet You Look Good on the Dancefloor" a "A Certain Romance", a gwelwyd y gair "ASBO" wedi'i argraffu ar y drwm bâs. Fodd bynnag, ychydig cyn y solo gitâr yn "A Certain Romance", beirniadodd Turner aelod o'r gynulleidfa a oedd yn dylyfu gên a thaflodd Cook ei gitâr tuag at uchel-seinydd ar ddiwedd y gân.
 
[[Delwedd:Arctic Monkeys BRIT Awards.jpg|thumb|left|Yr Arctic Monkeys yn mynychu Gwobrau'r BRITs yn 2008.]]Ym mis Chwefror 2007, ni fynychodd y band seremoni Gwobrwyo'r BRITs am eu bod yn recordio'r fideo cerddorol ar gyfer eu sengl newydd "Brainstorm" ar yr un diwrnod. Er i ambell berson weld y penderfyniad hwn fel ffordd arall o sarhau'r BRITs, dywedodd Helders wrth BBC 6Music6 Music "We're filming the video that day, so we're not going to be anywhere near it. We haven't snubbed it, we're just busy boys getting ready to go on tour again." Wedi iddynt ennill categorïau "Band Prydeinig Gorau" a'r "Albwm Prydeinig Gorau", danfonodd y band eu hareithiau diolch ar ffurf fideo. Ar y fideo, gwelwyd y band wedi'u gwisgo i fyny fel cymeriadau o'r [[The Wizard of Oz]] a [[The Village People]]. Ymddangosodd y band hefyd ar nifer o sioeau siarad yn hwyr yn y nos megis Late Night with Conan O'Brien, Late Show with David Letterman, Jimmy Kimmel Live! a Later with Jools Holland.
 
Ym mis Chwefror 2008 mynychodd y grŵp seremoni Gwobrwyo'r BRITs, lle enillasant yr Albwm Prydeinig Gorau am Favourite Worst Nightmare a'r Grŵp Prydeinig Gorau. Cawsant eu henwebu am Act Gorau Prydeinig sy'n Perfformio'n Fwy, ond enillodd [[Take That]] y wobr honno.
 
 
== Beirniadaeth Ohonynt a'u Hymddygiad Dadleuol ==