Will & Grace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 34:
Prif Gymeriadau
 
'''Will Truman''' ''([[Eric McCormack]])''
 
[[Cyfreithiwr]] [[hoyw]] a ffrind gorau hir dymor i Grace. Mae ganddo agwedd hynod niwrotig i'w bersonoliaeth, yn enwedig pan mae'n dod i lanhau. Mae sawl cymeriad wedi dweud fod ei berthynas ef a Grace yn fwy fel perthynas cwpl na pherthynas rhwng dau ffrind.
 
'''Grace Adler''' ''([[Debra Messing]])''
 
Dylunydd cartref ac ymddengys fod ganddi obsesiwn â bwyd. Mae Grace wedi bod yn ffrindiau gorau gyda Will ers dyddiau coleg. Roeddent yn canlyn yn y 1980au nes i Will sylweddoli ei fod yn hoyw ar ôl iddo gwrdd a'i ffrind Jack.
 
'''Jack McFarland''' ''([[Sean Hayes]])''
 
Un o ffrindiau gorau Will, mae Jack yn arwynebol a dros ben llestri. Symuda Jack o'r naill gariad i'r nesaf, o swydd i swydd gan gynnwys [[actor]] di-waith, gweithio mewn siop ac fel myfyriwr i fod yn nyrs. Yn nechreuadau'r sioe, datblyga Jack berthynas glos â Karen.
 
'''Karen Walker''' ''([[Megan Mullally]])''
 
Alcoholig a gwraig i wr cyfoethog Stan Walker (er nad yw'r gynulleidfa byth yn ei weld.) Mae Karen hefyd yn ddibynnol ar [[cyffuriau|gyffuriau]] presgripsiwn, poen-laddwyr ac amffeteminau yn benodol. Mae'n "gweithio" fel cynorthwyydd i Grace gan wneud "Grace Adler Designs" yn fwy poblogaidd ymysg ei chylchoedd cymdeithasol hi. Gall Karen fod yn eithaf disensitif, ond mae'n glos at Grace a Jack, ac ar adegau i Will hefyd.
 
== Cymeriadau eraill sy'n ymddangos yn rheolaidd ==
 
*Bobbi Adler ([[Debbie Reynolds]]) - Mam Grace
*Rosario Salazar ([[Shelly Morisson]]) - Morwyn Karen
*George Truman ([[Sydney Pollack]]) - Tad Will
*Marilyn Truman ([[Blythe Danner]]) - Mam Will
*Tina ([[Lesley Ann Warren]]) - Cariad Tad Will
*Elliott ([[Michael Angarano]]) - Mab biolegol Jack o'i gyfraniad i fanc sberm
*Rob ([[Tom Gallop]]) a Ellen ([[Leigh-Allyn Baker]]) - dau o ffrindiau coleg agosaf Grace a Will. Maent yn chwarae stumiau gyda hwy'n rheolaidd. Cwpwl priod ydynt gyda thri o blant.
*Joe ([[Jerry Levine]]) a Larry ([[Tim Bagley]]) - dau o ffrinidau agosaf Will a Grace, cwpwl hoyw ydynt gyda merch fabwysiedig o'r ene Hannah.
*Lorraine Finster ([[Minnie Driver]]) - y cariad cegog Prydeinig a ddygodd Stan wrth Karen gan achosi eu hysgariad. Daeth Karen a Lorraine yn elynion pennaf.
*Beverley Leslie ([[Leslie Jordan]]) - cymdeithaswr hynod gyfoethog a hynod o fyr sy'n Weriniaethwr i'r carn. Nid yw'n agored am ei [[rhywioldeb|rywiodeb]]. Mae ei berthynas gyda Karen yn amrywio o gyfeillgarwch i gasineb ac yn ôl.
*Dr. Marvin "Leo" Markus ([[Harry Connick Jr.]]) - Cariad Grace (gan ddechrau yng nghyfres 5) ac yna'i gwr; daeth eu priodas i ben (yng nghyfres 7) pan fu Markus yn anffyddlon i Grace. Ef hefyd yw tad ei phlentyn (yng nghyfres 8) ac yn rhaglen olaf y gyfres maent yn magu'u plentyn, Laila.
*Val Bassett ([[Molly Shannon]]) - a gwraig ysgaredig, alcoholig, braidd yn wallgof sy'n byw yn yr un bloc a Will, Grace a Jack; tuedda Val o ddechrau cweryla gyda Grace ac yn y gorffennol bu'n obsesiynnu am Jack.
*Vince D'Angelo ([[Bobby Cannavale]]) - Cariad hir-dymor cyntaf Will yn hanes y sioe. O gyfresi chwech tan wyth, mae Will a Vince yn magu mab Vince, Ben.