Lead Belly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd , ym mis Ionawr → yn Ionawr , ym mis Medi → ym Medi , Ym mis Chwefror → Yn Chwefror , Ym mis Ionawr → Yn Ionawr, replaced: Ym mis Rhagfyr → Yn Rhag using AWB
Llinell 44:
=== Bywyd cynnar ===
[[Delwedd:Lead_Belly_draft_registration_card,_ca._1942.jpg|bawd|Cerdyn cofrestru milwrol Lead Belly, tua 1942.]]
Ganwyd Huddie William Ledbetter ar Blanhigfa Jeter ger Mooringsport, Louisiana, naill ai ym misyn Ionawr 1888 neu 1889. Cofnodir bachgen 12 mlwydd oed o'r enw "Hudy Ledbetter", ganwyd Ionawr 1888, gan gyfrifiad cenedlaethol 1900, a mae'i oedran a nodir yng nghyfrifiadau 1910 a 1930 yn cyfateb i enedigaeth ym 1888. Cofnodir ei oed yn 51 yng nghyfrifiad 1940, gyda gwybodaeth gan ei wraig Martha. Fodd bynnag, pan gofrestrodd Ledbetter â'r rhestr filwrol yn Ebrill 1942 fe ysgrifennodd taw 23 Ionawr 1889 oedd ei ddyddiad geni a Freeport, Louisiana, oedd man ei eni. Y dyddiad hwnnw a geir ar ei garreg fedd.
 
Ledbetter oedd yr ieuengaf o ddau o blant a anwyd i Wesley Ledbetter a Sallie Brown. Mae'n debyg taw "HYEW-dee" neu "HUGH-dee" oedd ynganiad ei enw bedydd.<ref name="Cite book">{{Cite book}}</ref> Fe'i glywir yn dweud "HYEW-dee" ar y trac "Boll Weevil," ar yr albwm ''Lead Belly Sings for Children ''(Smithsonian Folkways)''.''<ref>{{cite web|url=https://play.spotify.com/track/5yYn4DcG0vF9SAoj9rgkHu?play=true&utm_source=open.spotify.com&utm_medium=open|title=Lead Belly Sings for Children|publisher=[[Spotify]]}}</ref> Bu ei rieni yn cyd-fyw am nifer o flynyddoedd cyn iddynt briodi ar 26 Chwefror 1888. Symudodd y teulu i Swydd Bowie, Texas, pan oedd Huddie yn bum mlwydd oed.
Llinell 55:
 
=== Ei gyfnod yn y carchar ===
Ym 1915, cafwyd Ledbetter yn euog o gario gwn a'i ddedfrydu i weithio â'r criw cadwyn yn Swydd Harrison. Llwyddodd i ddianc a chael gwaith yn Swydd Bowie dan y ffugenw Walter Boyd. Ym misYn Ionawr 1918 cafodd ei garcharu yn yr Imperial Ffarm (a elwir bellach yn Central Unit)<ref name="Perkinson184">Perkinson, Robert (2010).</ref> yn Sugar Land, Texas, am iddo ladd un o'i berthnasau, Will Stafford, mewn ffrae dros ferch. Mae'n bosib taw yno fe'i glywodd am y tro cyntaf y gân draddodiadol "Midnight Special".<ref>Lomax, Alan, ed.</ref> Derbyniodd bardwn ym 1925 ar ôl iddo gyfansoddi cân yn ymofyn i'r Llywodraethwr Pat Morris Neff i'w ryddhau, gan iddo dreulio saith mlynedd yn y carchar, y cyfnod lleiaf posib o'i ddedfryd 7-35 mlynedd. Llwyddodd i apelio at ffydd gref Neff, ynghyd â'i ymddygiad da yn y carchar gan gynnwys adlonni'r gwarchodwyr a'i gyd-garcharorion. Roedd yn dystiolaeth o'i ddawn perswâd, gan i Neff ymgyrchu ar addewid i beidio â phardynu carcharorion, er hwnnw oedd yr unig gyfle iddynt gael eu rhyddhau'n gynnar gan nad oedd parôl yn y mwyafrif o garchardai'r De. Yn ôl Charles K. Wolfe a Kip Lornell, yn eu llyfr'' The Life and Legend of Leadbelly'' (1999), gwahoddai gwesteion i'r carchar am bicnic Sul yn aml gan Neff i glywed Ledbetter yn canu.
 
[[Delwedd:Angola Prison -- Leadbelly in the foreground.jpg|bawd|Ffotograff a dynnwyd gan Alan Lomax o garcharorion Angola, a Lead Belly yn y tu blaen.]]
Llinell 69:
 
=== Bywyd ar ôl carchar ===
Gadawodd Lead Belly y carchar yn ystod y [[Dirwasgiad Mawr]], ac roedd swyddi'n brin felly. Roedd angen iddo weithio'n rheolaidd neu allai cael ei ddanfon yn ôl i'r carchar, felly ym mis Medi 1934 fe ofynnodd i John Lomax ei hurio'n yrrwr. Am dri mis, teithiodd Lead Belly gyda John ar draws De'r Unol Daleithiau yn casglu caneuon gwerin. (Roedd Alan Lomax yn sâl a ni ddaeth ar y daith hon â'i dad.)
 
Ym misYn Rhagfyr fe gymerodd rhan mewn ''smoker ''(sesiwn canu grŵp) mewn cyfarfod y Modern Language Association yng [[Coleg Bryn Mawr|Ngholeg Bryn Mawr]] ym [[Pennsylvania|Mhensylfania]], tra'r oedd John Lomax yn traddodi darlith yno. Disgrifiwyd Lead Belly gan y wasg fel carcharor a ganodd i ennill ei ryddid. Ar Ddydd Calan 1935, cyrhaeddodd y cerddor a'r ysgolhaig [[Dinas Efrog Newydd|Ddinas Efrog Newydd]] ac yno bu Lomax yn cwrdd â'i cyhoeddwr Macmillan am gasgliad newydd o ganeuon gwerin. Roedd y papurau newydd yn awyddus i ysgrifennu am y "canwr-garcharor", a Lead Belly oedd yn destun i un o ffilmiau newyddion cylchgrawn <span>[[Time (cylchgrawn)|Time]]. Enillodd Lead Belly glod ac enw ond nid cyfoeth.</span>
 
Yr wythnos ganlynol, dechreuodd recordio ar gyfer yr American Record Corporation, ond nid oedd y rhain yn llwyddiannau masnachol. Recordiodd dros 40 o "ochrau" ar gyfer ARC, ond dim ond pump ohonynt a gafodd eu cyhoeddi. Mae'n bosib byddai'r recordiau wedi gwerthu mwy os oedd ARC wedi cyhoeddi'i ganeuon gwerin, yn hytrach na'i ganeuon blŵs yn unig. Fel nifer o gerddorion tlawd, enillodd Lead Belly y mwyafrif helaeth o'i incwm drwy berfformio ar daith ac nid o werthu ei recordiau.
 
Ym misYn Chwefror 1935, priododd ei gariad, Martha Promise, a ddaeth o Louisiana i fyw gyda fe.
 
Treuliodd y mis hwnnw yn recordio'r cyfan o'i ganeuon a nifer o ganeuon eraill yr [[Americanwyr Affricanaidd|Americanwyr Affricanaid]] yn ogystal â chyfweliadau am ei fywyd gydag Alan Lomax ar gyfer llyfr amdano. Ni chafodd nifer o gyfleoedd i berfformio mewn cyngherddau yn y cyfnod hwn. Ym Mawrth 1935, aeth Lead Belly a John Lomax ar daith ddarlithio am ddwy wythnos i golegau a phrifysgolion yn y Gogledd-ddwyrain, gan orffen yn [[Prifysgol Harvard|Harvard]].
Llinell 85:
<span>Cyhoeddodd cylchgrawn ''Life ''erthygl dair-tudalen dan y teitl</span> "Lead Belly: Bad Nigger Makes Good Minstrel" yn rhifyn 19 Ebrill 1937. Roedd yn cynnwys delwedd liw ohonno yn eistedd ar sachau o rawn ac yn canu'i gitâr,<ref name="Cite book"/> delwedd o Martha Promise (ei reolwr, yn ôl yr erthygl), ffotograffau o'i ddwylo yn plycio a strymian (gyda'r pennawd "''these hands once killed a man''"), a ffotograffau o'r Llywodraethwr Neff a Phenydfa Daleithiol Texas. Honna'r erhygl taw llais Lead Belly oedd y rheswm dros ei ddau bardwn, a chlo'r testun gyda'r geiriau "''he... may well be on the brink of a new and prosperous period''".
 
Methodd Lead Belly i ennyn brwdfrydedd cynulleidfaoedd Harlem. Yn lle hynny, cafodd llwyddiant mewn cyngherddau a budd-berfformiadau ar gyfer selogion cerddoriaeth werin a chefnogwyr yr adain chwith. Datblygodd arddull ei hun o ganu ac egluro'i stôr gerddorol yng nghyd-destun diwylliant y Deheuwyr croenddu, wedi iddo ddysgu'r hanes hwn mewn darlithoedd Lomax. Roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i stoc o ganeuon gêm i blant (pan oedd yn ddyn ifanc yn Louisiana fe fu'n canu'n rheolaidd i bartïon pen-blwydd plant yn y gymuned ddu). Cafodd Lead Belly ei edmygu a'i foli'n arwr gan y nofelydd Richard Wright yng ngholofnau'r ''Daily Worker'', papur y Blaid Gomiwnyddol. Magodd y ddau ddyn gyfeillgarwch, er yr oeddroedd Lead Belly yn ôl rhai heb farnau gwleidyddol, neu yn gefnogwr i'r [[Plaid Weriniaethol (Unol Daleithiau)|Gweriniaethwr]] cymedrol Wendell Willkie gan iddo cyfansoddi cân ar gyfer ei ymgyrch arlywyddol. Ar y llaw arall, ysgrifennodd hefyd y gân "Bourgeois Blues", a chanddi geiriau radicalaidd ac adain-chwith.
 
[[Delwedd:Leadbelly with Accordeon.jpg|bawd|chwith|Lead Belly yn canu'r acordion, tua 1942.]]