Lefiathan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
B →‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: y mae → mae using AWB
Llinell 4:
Ceir disgrifiad llawn a lliwgar yn ''[[Llyfr Job]]'' (Job 41). Dywedir amdano, "Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. Y mae’n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid bach" (Job 41.33-34). Dywed Duw wrth [[Job]] am Lefiathan, "Os ceisir ei drywanu â’r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â’r waywffon, na’r dagr, na’r bicell. Y mae’n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae’n trafod cerrig-tafl fel us. Fel sofl yr ystyria’r pastwn, ac mae’n chwerthin pan chwibana’r bicell" (Job 41.26-29). Mae’n ddychrynllyd ei olwg. Pan ddaw Duw i waredu [[Israel]] bydd "yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr" (Eseia 271). Mae ganddo sawl pen yn ôl y Salmydd: "Ti, â’th nerth, a rannodd y môr; torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr" (Salm 74.13-14).
 
Gellid ei gymharu â [[Behemoth]], anghenfil arall o'r traddodiad Beiblaidd, sy’n tra-arglwyddiaethu ar anifeiliaid y tir yn yr un modd ag y mae Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr. Gelwir brenhinoedd gormesol wrth ei enw. Yn [[yr Oesoedd Canol]] credid yr ymddangosai fel un o’r arwyddion o ddiwedd y byd a’r [[Dydd y Farn|Farn Fawr]]:
 
:Llwyth byt yg griduan;