Xerxes I, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Aeth y Persiaid ymlaen tuag Athen, lle roedd dadl a ddylent ymladd y Persiaid ar y tir ynteu dibynnu ar eu llynges. Ar gyngor [[Themistocles]], penderfynwyd gadael y ddinas a defnyddio’r llynges i ymladd y Persiaid. Cipiwyd a llosgwyd Athen gan y Persiaid, ond gorchfygwyd llynges Xerxes gan lynges Athen a’i cyngheiriaid yn [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]]. Dychwelodd Xerxes i Asia Leiaf, ond gadawodd [[Mardonius]] gyda byddin gref i ymladd y Groegiaid. Y flwyddyn ganlynol, gorchfygwyd a lladdwyd Mardonius gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad [[Pausanias]], brenin Sparta ym [[Brwydr Plataea|Mrwydr Plataea]].
 
Mae Xerxes yn ymddangos yn [[y Beibl]] dan yr enw "Ahasfferus", sy'bn tarddu o'r fersiwn [[Hebraeg]] o'i enw. Mae'n gymeriad yn [[Llyfr Esther]], lle ceir ei hanes yn priodi [[Esther]].