Ymerodraeth Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
'''Ymerodraeth Persia''' oedd yr enw ar nifer o ymerodraethau yn y diriogaeth oedd yn dwyn yr enw [[Persia]] ac a elwir yn awr yn [[Iran]]. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd yr [[Ymerodraeth Achaemenid]] (648 - 330 CC.). Cnewyllyn yr ymerodraeth oedd yr ardal sy'n awr yn dalaith Fars yn Iran. Sylfaenydd Ymerodraeth Persia oedd [[Cyrus Fawr]], a orchfygodd ymerodraeth y [[Mediaid]] ac a ymestynnodd yr ymerodraeth dros y rhan fwyaf o'r Dwyrain Canol, yn cynnwys tiriogaethau [[Babylon]], y [[Ffeniciaid]], a'r [[Lydiaid]]. Ychwanegodd mab Cyrus, [[Cambyses II, brenin Persia|Cambyses II]], [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]] at yr ymerodraeth.
Ymestynnwyd ffiniau'r ymerodraeth ymhellach gan [[Darius I, brenin Persia|Darius I]]. Arweniodd ei fyddinoedd cyn belled a dyffryn [[Afon Indus]] a meddiannodd [[Thrace]] yn Ewrop. Methodd ymgyrch yn erbyn [[Groeg yr Henfyd|Groeg]] pan orchfygwyd byddin Bersaidd ym [[Brwydr Marathon|Mrwydr Marathon]] yn [[490 CC.]].
[[Image:Achaemenid Empire.jpg|left|thumb|250px|Yr Ymerodraeth Achaemenid yn ystod teyrnasiad Darius I.]]
Ymosododd mab Darius, [[Xerxes I, brenin Persia|Xerxes I]] ar y Groegiaid gyda byddin enfawr ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond gorchfygwyd ei lynges ym [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]] yn [[480 CC.]] a gorchfygwyd ei fyddin ym [[Brwydr Plataea|Mrwydr Plataea]] yn [[479 CC.]].
Yn ddiweddarach datblygodd [[Parthia|Ymerodraeth y Parthiaid]] (250 Cc. - 226 OC.) yn yr un ardal. Yn [[226 CC.]] cipiodd [[Ardashir I, brenin Persia|Ardashir]] y brifddinas [[Ctesiphon]], gan sefydlu Ymerodraeth Bersaidd dan linach y Sassanid, a barhaodd hyd y flwyddyn 651.
|