Eric McCormack: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: bawd|dde|Eric McCormack yn 2006 Mae Eric James McCormack (ganwyd 18fed Ebrill, 1963) yn actor, cerddor, ysgrifennydd a chynhyrchydd rhaglenni tele...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel [[Will Truman]] yn y rhaglen [[comedi|gomedi]] sefyllfa [[Will & Grace]].
 
 
== Bywgraffiad ==
 
'''Ei Fywyd Cynnar'''
 
Ganwyd McCormack yn [[Toronto]], [[Ontario]], [[Canada]], yn fab i wraig tŷ, Doris a dadansoddwr ariannol i gwmni olew, Keith McCormack. Mae ganddo linach Cherokee ac Albanaidd. Mynychodd Athrofa Colegol Syr John A. Macdonald yn Scarborough, Ontario. Aeth McCormack i'r un ysgol uwchradd a David Furnish, gwr [[Elton John]]. Cafodd McCormack ei addysg a'i hyfforddiant actio yng [[Canada|Nghanada]] yn y Ryerson University School of Theatre yn Toronto,ac mae McCormack wedi bod yn ymddangos mewn cynhyrchiadau teledu ers iddo ddechrau'i yrfa ym [[1986]].
 
 
== Ei Yrfa fel Actor ==
 
Chwaraeodd McCormack ran y Cadfridog Francis Clay Mosby yn y gyfres deledu fer Lonesome Dove: The Series ([[1994]]), a Lonesome Dove: The Outlaw Years ([[1995]]). Chwaraeodd ran yr anfarwol Matthew McCormick yn Highlander: The Series rhaglen "Manhunt" ([[1996]]). Ym [[1997]], ymddangosodd mewn rhaglen o The Outer Limits mewn pennod o'r enw "Tempests". Ym [[1998]] actiodd McCormack mewn ffilm cylt o'r enw Free Enterprise gyda [[William Shatner]]. Chwaraeodd gymeriad a oedd yn seiliedig ar fywyd cyd-ysgrifennydd y ffilm Mark A. Altman. Mae ffilm ddilynol yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd a disgwylir y bydd McCormack yn cymryd y rôl fel Mark.
 
Daeth enwogrwydd ac adnabyddiaeth i McCormack yn sgîl ei rôl fel y [[cyfreithiwr]] [[hoyw]] [[Will Truman]] yng nghomedi sefyllfa [[NBC]] [[Will & Grace]] o 1998 tan 2006.