Ruth Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae Ruth Jones yn actores sy'n adnabyddus am sgriptio ac am actio yn y [[comedi]] deledu [[Gavin & Stacey]] a enillodd wobrau niferus. Mae hi hefyd yn enwog am ei pherfformiadau doniol yn '[[Little Britain]]' ac yn 'Nighty Night'.
 
Mae Ruth Jones, a anwyd ym 1966, o [[Porthcawl|Borthcawl]] yn [[De Cymru|Ne Cymru]]. Ar ôl iddi orffen yn yr ysgol yno, cafodd radd yn [[Drama|Nrama]] o Brifysgol Warwick ac yna aeth i [[Coleg Cerdd a Drama|Goleg Cerdd a Drama Caerdydd]]. I ddechrau gweithiodd Jones ym myd comedi ar gyfer BBC Wales yn ysgrifennu a pherfformio sawl cyfres radio a rhaglenni teledu comedi. Ar ôl gweithio gyda'r RSC a'r Theatr Genedlaethol bu Jones yn y ffilm Brydeinig boblogaidd East is East, ac yna yng nghyfres pedwar o [[Fat Friends]] ar gyfer [[ITV]] lle chwaraeodd ran Kelly. Yn ogystal â hyn, chwaraeodd rôl Myfanwy yn [[Little Britain]] ac yna fel Linda yn [[Nighty Night]]. Yn fwy diweddar, mae Jones wedi ymddangos mewn dau ddrama cyfnod ar gfer BBC1 sef [[Tess of the d'Urbervilles]] a Little Dorrit.
 
Mae Jones yn byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] ac mae ganddi ei chwmni cynhyrchu ei hun: Tidy Productions (Sutherland Productions yn flaenorol). Yn ddiweddar derbyniodd Tidy Productions ei gomisiwn cyntaf ac mae gan Ruth Jones sioe siarad ar BBC Radio Wales o'r enw Ruth Jones Sunday Brunch. Bydd y rhaglen yn gymysgedd o sgwrsio, gwestai arbennig a chomedi.
 
== Cydnabyddiaeth a Gwobrau ==