Bacteria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
[[Organeb]]au microsgopig [[organeb ungellog|ungellog]] yw '''bacteria'''. Mae ganddynt [[cell (bioleg)|gelloedd]] [[procaryot]]ig syml. Does ganddynt ddim [[cnewyllyn]] diffiniedig nac [[organyn]]nau fel [[cloroplast]]au a [[mitocondria]]. Maent yn niferus iawn mewn pridd, dŵr ac y tu mewn i organebau eraill. Mae rhai bacteria'n achosi [[clefyd]]au fel [[tetanws]] a [[colera|cholera]].
Mae bacteria yn fwy na firysau, mae ganddynt gell brocaryotig gyfan, gyda'u holl swyddogaethau metabolaidd eu hun. Mae’r genynnau bob amser yn [[DNA]]. Gallant fod yn rhai sy'n byw'n rhydd, gan achosi haint ddim ond drwy siawns, neu'n gydfwytaol (yn byw'n ddiniwed ar eich [[croen]] neu yn eich coludd), gan achosi haint dim ond drwy siawns neu’n barasitiaid anochel sy'n byw ddim ond drwy heintio ac mae'n rhaid iddynt gael eu trosglwyddo o un organeb letyol i'r llall..<ref>{{Cite web|url=http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16|title=Iechyd a GofalCymdeithasol|date=2011|accessdate=2017|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
== Diagnosis ==
Fel gyda firysau - drwy'r symptomau a'r lleoliad. Hefyd drwy feithriniadau swab, profion biocemegol, adwaith i wrthgyrff penodol neu adnabod dilyniannau DNA.
== Triniaeth ==
Ble maen nhw'n effeithiol, [[Gwrthfiotig|gwrthfiotigau]] yw'r driniaeth ddewisol, fel arall ceir cyffuriau gwrthfacteria eraill (yn gyffredinol yn llai effeithiol a/neu'n fwy ymosodol i'r derbynnydd). Mae’r triniaethau hefyd yn ymwneud â lleddfu'r symptomau, e.e. defnyddio cyffuriau gwrthlidiol neu boenliniarwyr, a gorffwys a maeth da i roi'r cyfle gorau i system imiwnedd y person o guro'r haint. Gellir atal rhai clefydau bacteriol hefyd drwy imiwneiddio.
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
Llinell 42 ⟶ 20:
[[Categori:Pethau byw]]
[[Categori:Bacteria|*]]
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]
|