Llancaiach Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
→‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd , ym mis Hydref → yn Hydref , fel ag roedd yn → fel yr oedd yn using AWB
Llinell 85:
[[Maenor]] [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|Tuduraidd]] yw '''Llancaiach Fawr''' a leolir ger pentref [[Nelson, Caerffili|Nelson]] ym mwrdeistref sirol [[Caerffili (sir)|Caerffili]], De [[Cymru]]. Saif tuag 20 munud oddi ar yr A472, ychydig i'r gogledd o hen safle Glofa Llancaiach. Adeiladwyd y neuadd yn 1540 ar gyfer Dafydd ap Richard<ref>[http://your.caerphilly.gov.uk/llancaiachfawr/manor-gardens/house-history-name Gwefan Saesneg y faenor. Adalwyd 15/08/2012]</ref><ref name="caerphilly.gov.uk">http://www.caerphilly.gov.uk/llancaiachfawr/english/house.html</ref> ac fe'i cynlluniwyd er mwyn medru ei amddiffyn ar amrantiad yng nghyfnodau stormus y Tuduriaid.
 
Mae'r faenor bron yn union fel ag yr oedd yn 1645 yn ystod [[Rhyfel Cartref Lloegr]]. Yn y flwyddyn honno fe ymwelodd y [[Siarl I, brenin Lloegr|Brenin Siarl I]] â'r tŷ ar y 5ed Awst i geisio perswadio'r perchennog, y Cyrnol Edward Pritchard, i ddal i fod yn deyrngar i'r brenin ar adeg pan roedd cefnogaeth i'r frenhiniaeth yn gwanhau. Er ei ymweliad, yn fuan wedyn daeth y teulu Pritchard ynghyd â boneddigion eraill De Cymru yn gefnogwyr i'r llywodraeth ac yn nes ymlaen fe amddiffynodd Pritchard [[Castell Caerdydd|Gastell Caerdydd]] rhag y brenhinwyr.<ref name="caerphilly.gov.uk"/>
 
Mae'r plasdy bellach yn amgueddfa byw sy'n ail-greu hanes drwy'r gweision a'r morynion – yn eu gwisgoedd yn adrodd straeon a hanesion am fywyd yn ystod cyfnod y Cyrnol Prichard. Mae’n un o dai ysbrydion enwocaf Cymru, a threfnir teithiau yng ngolau cannwyll ym misyn Hydref i fis Mawrth). Ceir rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau gan gynnwys hebogyddiaeth, brwydrau'r Rhyfel Cartref, saethyddiaeth a ffeiriau gwlad.
 
==Cyfeiriadau==