Llanfair Caereinion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 19:
Pentref gwledig a [[plwyf|phlwyf]] ym [[Powys|Mhowys]] yw '''Llanfair Caereinion'''. Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr [[A458]], 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r [[Drenewydd]]. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed [[afon Banwy]] trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).<ref>{{Cite web|url=http://www.powys.gov.uk/cy/ystadegau/gweld-ystadegau-am-eich-ardal-chi/gwybodaeth-fanwl-am-y-cyfrifiad/|title=Gwybodaeth Fanwl am y Cyfrifiad|date=|access-date=15/11/2017|website=Cyngor Sir Powys|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
Yn yr [[Cymru'r Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]] Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf [[cantref]] [[Caereinion]]. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan [[Einion Yrth]], un o feibion [[Cunedda]], ganol y [[5g]]. Ceir hen [[bryngaer|fryngaer]] o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref.
Yn fersiwn [[John Jones o Gellilyfdy]] o'r chwedl ''[[Hanes Taliesin]]'', mae [[Taliesin Ben Beirdd|Gwion Bach]], ymgnawdoliad cyntaf [[Taliesin Ben Beirdd]], yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".<ref>Patrick K. Ford (gol.), ''Ystorya Taliesin'' (Caerdydd, 1992).</ref>
|