Lle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
B →‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: y mae → mae using AWB
 
Llinell 3:
Weithiau, defnyddir 'lle' i ddynodi cysyniad mwy cyffredinol, sef math o fan â rhyw nodwedd benodol iddo, er enghraifft, lle swyddfa (''office space''), a elwir yn ''space'' yn Saesneg. Mewn [[daearyddiaeth]], defnyddir 'lle' yn bennaf i ddynodi man penodol mewn gofod daearyddol ac yn hyn o beth gellir ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair place mewn cyd-destunau daearyddol. Dylid nodi, fodd bynnag, y gall 'lle' a 'man' ddynodi ''space'' mewn rhai cyd-destunau lle trafodir mathau o ofod penodol, er enghraifft, 'lle gwyrdd' (''green space'') a 'man cyhoeddus' (''a public space'').
 
Mewn llenyddiaeth ddaearyddol, awgrymir bod gan leoedd, yn yr ystyr mannau penodol, sawl nodwedd. Maent yn unigryw, ffiniedig ac mae ganddynt ymddangosiad a safle mewn gwagle. Fodd bynnag, mae mwy i le na bod yn lleoliad penodol yn y byd. Yn ogystal, mae ganddo hanes ac ystyr i'r ddynolryw sy'n golygu ei fod yn ymddangos yn gyson a sefydlog er ei fod yn newid dros amser: yr hyn mae rhai awduron yn galw'r genius loci, sef ysbryd unigryw lle (Relph, 1976/2008). Er enghraifft, [[Aberystwyth]] yw Aberystwyth o hyd, er gwaethaf newidiadau dros y blynyddoedd yn nhirlun y dref a'i phoblogaeth, wrth i adeiladau a ffyrdd newydd gael eu codi, tirnodau eraill gael eu dymchwel a miloedd o [[myfyriwr|fyfyrwyr]] yn symud i'r dref i astudio cyn gadael ar ôl iddynt raddio. Golyga hyn fod mwy i leoedd na'r nodweddion corfforol a synhwyrol sy'n perthyn iddynt. Mae ystyr lle yn mynd yn bellach na'r hyn y mae pobl yn ei weld, mae’n treiddio i'w hemosiynau a'u teimladau. Felly, mae [[daearyddiaeth|daearyddwyr]] yn sôn am synnwyr o le. Gall hyn fod yn bwysig iawn i hunaniaeth pobl gan fod ein bro gynefin yn gallu effeithio ar y ffordd yr ydym yn diffinio ein hunain a dweud llawer am rywun fel person i bobl eraill (Crang, 1998).
 
Mewn gwirionedd, awgryma Relph (1976/2008) fod cael perthynas â lleoedd sy'n golygu rhywbeth i ni, yn rhan o fod yn aelod o'r [[Bod dynol|ddynolryw]]. Wrth i'r byd gael ei effeithio gan brosesau [[globaleiddio]], mae rhai awduron wedi awgrymu bod lleoedd wedi mynd mor gysylltiedig, a'r perthnasau rhyngddynt mor estynedig, nad oes modd siarad am le bellach (Castells, 1989; Emberley, 1989) gan nad oes modd i bobl roi ystyr i ofod fel yr oeddent yn y gorffennol pan oedd lleoedd yn ddiffiniedig a llonydd. Eto i gyd, mae eraill yn dadlau ei bod yn bwysig nodi bod lleoedd erioed wedi bod yn agored i leoedd eraill ac yn gysylltiedig â hwy. Nid oeddent erioed wedi bod yn gaeedig ac yn ddi-newid. Maent wedi cael eu heffeithio gan leoedd cyfagos a phell i ffwrdd drwy hanes. Un enghraifft dda o hyn yw'r siroedd o gwmpas Llundain a elwir yn Saesneg yr home counties (Massey,1995). Y siroedd hyn yw tarddiad llawer o'r delweddau nodweddiadol o Loegr a Seisnigrwydd. Yn hanesyddol, dyma gartref i bobl y dosbarth canol a phobl gefnog y dosbarth uwch â phlastai boneddigaidd yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, roedd y cyfoeth a greodd yr anheddau hyn yn seiliedig ar fuddsoddiadau mewn gweithgareddau y tu hwnt i'r siroedd dan sylw, er enghraifft, gweithgareddau gwladychu a chaethwasiaeth a oedd yn digwydd mewn gwledydd tramor a rhannau eraill o'r DG megis Lerpwl a De Cymru. Gellid awgrymu felly bod lleoedd yn cael eu ffurfio gan nifer fawr o gysylltiadau cymdeithasol wedi'u hymestyn drwy ofod. (Efallai bod hyn yn amlycach yn y Gymraeg wrth ystyried bod 'lle' yn gallu golygu darn penodol o ofod daearyddol neu rywbeth mwy cyffredinol). Crëir y nodweddion unigryw sydd i leoedd yn rhannol gan y cysylltiadau rhyngddynt.