Lleng Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: bedwaredd ganrif → 4g using AWB
Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (10), Yr oedd → Roedd (3) using AWB
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Roman legion at attack 3.jpg|240px|bawd|Lleng yn paratoi i ymosod (actorion o [[Pram]] ([[Awstria]])]]
Y '''Lleng Rufeinig''' (o'r [[Lladin]] ''legio'') oedd prif uned filwrol y fyddin Rufeinig. Yn oes aur yr [[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth]] yr oeddroedd yn cynnwys rhwng 5,000 a 6,000 o wŷr traed; yn ddiweddarach hyd 8.000 o wŷr traed a marchogion yn ychwanegol. Yr oeddRoedd gan bob lleng rif, ac fel rheol enw hefyd (gweler [[Rhestr Llengoedd Rhufeinig]]). Mae hanes am tua 50 o lengoedd, ond ni fu mwy na 28 mewn bodolaeth ar yr un pryd.
 
Y lleng oedd sylfaen yr ymerodraeth, ac anaml y gallai eu gelynion eu gwrthsefyll mewn brwydr. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'u gwrthwynebwyr, yr oeddroedd y llengfilwyr yn filwyr proffesiynol oedd wedi dewis y fyddin fel gyrfa.
 
== Hanes ==
[[Delwedd:Centurio 70 aC - cropped.jpg|200px|bawd|Canwriad o tua 70 O.C.]]
[[Delwedd:Relief Kolumna Trajana.jpg|200px|bawd|Llengfilwyr Rhufeinig ar golofn Trajan]]
Yn oes [[brenhinoedd Rhufain]], yr oeddroedd y gair ''legio'' yn cyfeirio at holl fyddin Rhufain, hynny yw y dinesyddion wedi eu galw i ymladd. Yn ddiweddarch yn ystod y [[Y Weriniaeth Rufeinig|Weriniaeth Rufeinig]] yr oeddroedd y fyddin weithiau yn cael ei rhannu'n ddwy, pob rhan dan arweiniad un o'r ddau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]]. Yn ddiweddarach, yn ystod y 4g cyn Crist, sefydlwyd y llengoedd yn fwy ffurfiol.
 
Yn ystod y Weriniaeth yr oeddroedd llengoedd yn cael eu ffurfio pan oedd angen ac yna yn cael eu chwalu pan nad oedd angen amdanynt mwyach. Yng nghyfnod yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] daethant yn fwy sefydlog, a bu rhai llengoedd mewn bodolaeth am ganrifoedd lawer.
 
Ar adegau yr oeddroedd gan y llengoedd ddylanwad mawr ar wleidyddiaeth Rhufain, er enghraifft yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdr]] pan geisiodd llengoedd mewn gwahanol rannau o'r ymerodraeth sefydlu eu ffefrynnau eu hunain fel ymerawdr. Oherwydd hyn, gallai unrhyw gadfridog a allai ennill teyrngarwch nifer o lengoedd iddo ef ei hun yn bersonol fod yn beryglus i'r ymerawdr.
 
== Trefniant Lleng ==
Roedd pob lleng yn cael ei harwain gan ''[[legatus]]''. Roedd y rhain yn aelodau o deuluoedd mwyaf aristocrataidd Rhufain ac a pherthynas agos a'r ymerawdr. Fel rheol yr oeddynt yn cael y swydd yma pan oeddynt tua deg ar hugain oed. O danynt hwy yr oeddroedd y ''[[tribunes militares]]''. O'r rhain yr oeddroedd un yn aelod o deulu aristocrataidd ac yn gweithredu fel dirprwy i'r legatus, a'r pump arall yn dod o deuloedd llai aristocrataidd ond yn dal yn uchelwyr.
 
O danynt hwy, ac yn ffurfio asgwrn cefn y lleng, yr oeddroedd y milwyr proffesiynol, oedd yn gwneud gyrfa yn y fyddin. Yr uchaf o'r rhain oedd y ''praefectus castrorum'' (pennaeth y gwersyll), ac yn nesaf ato y ''primus pilus'', sef yr uchaf o'r [[Canwriad|canwriaid]] mewn safle. Yna yr oeddroedd y canwriaid eraill, gyda swyddogion eraill a elwid yn ''optio'' yn eu dilyn. Yr oeddRoedd nifer o fân swyddogion megis y ''tesserarius'', a swyddi megis daliwr y faner. Yna deuai'r llengfilwyr cyffredin. Roedd y rhain yn filwyr proffesiynol ar gyflog, wedi eu hyfforddi a'u disgyblu'n ofalus.
 
Yr oeddRoedd gan bob lleng ei '''Eryr''', delw o eryr ar bolyn oedd yn cynrychioli'r lleng. Mewn brwydr delid yr eryr gan swyddog a elwid yr ''aquilifer'', ac nid oedd dim gwaeth a allai ddigwydd i leng na cholli ei heryr i'r gelyn mewn brwydr.
 
== Darllen pellach ==