Lleu Llaw Gyffes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2) using AWB
Llinell 2:
 
==Geni'r efeilliaid Lleu a Dylan==
Yn ôl y chwedl, ni allai Math fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn. Wrth chwilio am forwyn cynghorodd ei nai [[Gwydion]] iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, ac bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr penfelyn gyda'r enw [[Dylan]]. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef fe gyrchodd y môr ac "fe gafodd natur y môr". Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don. Wedyn clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Cyrchodd y dref gyda'r plentyn i'r lle y gwyddai fod gwraig a allai feithrin y bachgen. Tyfodd y mab yn hynod o gyflym. Ymhen yr ail flwyddyn yr oeddroedd yn gallu cyrchu'r llys ar ei ben ei hun, felly o hyn ymlaen fe'i magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
 
==Lleu a thynghedau Arianrhod==
Llinell 22:
"Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."
 
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oeddroedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan [[Afon Cynfal]] (ger [[Ffestiniog]] heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
 
Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.