Llyn y Fan Fach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3397034 (translate me)
B →‎Chwedl Llyn y Fan Fach: Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd using AWB
Llinell 4:
 
==Chwedl Llyn y Fan Fach==
Cysylltir [[chwedl]] [[llên gwerin]] â'r [[llyn]]. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger [[Llanddeusant]]) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth yr oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger [[Myddfai]], a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol un o'r enw [[Rhiwallon]] (mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith). Ymhen y rhawd aeth Rhiwallon a'r meibion eraill i lys [[Rhys Gryg]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] lle daethant yn feddygon enwog a adwaenir heddiw fel [[Meddygon Myddfai]]. Erys nifer o'i fformiwlau meddygol yn y [[llawysgrif]]au.
 
Diau mai [[duwies]] [[Celtiaid|Geltaidd]] oedd 'Merch Llyn y Fan Fach' yn wreiddiol. Mae sawl elfen yn y stori yn perthyn i draddodiadau'r [[Tylwyth Teg]] yn ogystal.