Daeargryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tegel (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.219.232.154 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan 193.52.21.90.
Tagiau: Gwrthdroi
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: 'de|300px|bawd|Difrod daeargryn yn [[El Salfador]] * Categori:Seismoleg Categori:Per...'
Llinell 1:
[[Delwedd:Egepg1.jpg|de|300px|bawd|Difrod daeargryn yn [[El Salfador]]]]
*
Dirgryniad wyneb y daear yw '''daeargryn'''. Gelwir astudiaeth gwyddonol o ddaeargrynfeydd yn [[Seismoleg]]. Mesurir yr ynni straen a ryddheir gan ddaeargryn (sef cryfder y daeargryn) ar y [[Graddfa Richter|Raddfa Richter]].
 
Mae daeargrynfeydd yn digwydd pob dydd, ond rhai gwan yw'r mwyafrif ohonynt, nad ydynt yn achosi niwed mawr. Ond mae daeargrynfeydd mawrion yn achosi niwed erchyll gan ladd llawer o bobl.
 
Achosir daeargrynfeydd yn bennaf oll gan [[symudiadau'r platiau|symudiad platiau]] tectonig, lle mae dau blât mewn gwrthdrawiad neu yn symud i gyfeiriad dirgroes (daeargryn tectoneg). Mae symudiad [[magma]] mewn [[llosgfynydd]] yn gallu achosi daeargryn hefyd. Weithiau, mae cwymp gwagle tanddaearol yn achosi daeargryn.
 
Cyn daeargryn tectonig mae diriant yng [[cramen y ddaear|nghramen y ddaear]] yn cynnyddu. Fe ddigwydd y daeargryn pan fod y ddaear yn torri ac yn symud. Mae'r ddaear yn dirgrynu yn llorfeddol ac yn fertigol, ond symudiad llorfeddol sydd yn achosi mwyafrif y niwed i adeiladau. Yn ystod daeargryn [[San Francisco]] ym [[1906]] symudodd wyneb y daear yn sydyn am dros 4m gyda chanlyniadau erchyll.
 
Mae daeargryn yn achosi tonnau sy'n cael eu cofnodi gan [[seismograff]]au ledled y byd. Mae'n bosib gwybod lle y digwyddodd daeargryn a dyfalu strwythur y ddaear trwy ddadansoddi cofnodion y seismograffau.
 
Mae'n bosib i don anferth ([[tsunami]]) godi o ganlyniad i ddaeargryn neu ffrwydrad [[llosgfynydd]] ar waelod y [[môr]]. Yn y [[Môr Tawel]] y mae hyn yn fwyaf tebyg o ddigwydd.
 
Ar hyn o bryd mae'n dal i fod yn anodd rhagfynegu daeargryn.
 
== Ardaloedd lle y digwydd llawer o ddaeargrynfeydd ==
=== Ewrop ===
* ar hyd dyffryn [[afon Rhine|Rhine]], yn bennaf yn [[Basel]], [[y Swistir]]
* ardal [[Wien]], [[Awstria]]
* [[Gwlad yr Iâ]]
* ardal [[Lisbon]], [[Portiwgal]]
* [[yr Eidal]] bron y cyfan
* [[Bosporws]] a'r gorynys Peloponesaidd (?) ac ardal [[Môr Aegea]]
=== Asia ===
* dyffryn [[Iorddonen]]
* [[Iran]]
* [[Aserbaijan]]
* [[Armenia]]
* [[Georgia]] ([[Tbilisi]])
* [[Wsbecistan]] ([[Tashkent]])
* [[India]] ([[Ahmedabad]])
* [[Myanmar]] ([[Rangoon]])
* [[Taiwan]] ([[Taipei]])
* [[Tsieina]] ([[Beijing]], [[Hebei]], [[Shanxi]], [[Lijiang]], mynyddoedd [[Pamir]])
* [[Siapan]]
 
=== America ===
glan y [[Môr Tawel]] bron a bod bob cam ar hyd arfordir [[Gogledd America]] a [[De America]]:
 
* [[San Francisco]], [[UDA]]
* [[Mecsico]]
* [[Nicaragua]] ([[Managua]])
* [[Ecwador]]
* [[Periw]]
* [[Tsili]]
* [[Jamaica]]
 
== Dolenni allanol ==
* [http://www.amgueddfacymru.ac.uk/en/rhagor/erthygl/2002/ 'Daeargrynfâu yng Nghymru'], erthygl ar wefan [[Amgueddfa Cymru]].
 
== Gweler hefyd ==
* [http://www.emsc-csem.org/#2 European-Mediterranean Seismological Centre]
* [[Tectoneg platiau]]
* [[Ffin Plat Tectonig]]
* [[Daeargryn Nepal 2015]]
 
[[Categori:Daeargrynfeydd| ]]