Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi symud Academi i Academi Gymreig: mae eraill
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Logo_Academi.gif|thumb|250px|Logo '''Academi''']]
 
Sefydlwyd yr '''Academi Gymreig''', neu'r '''Academi''' fel y'i gelwir yn gyffredinol, yn [[1959]] gan [[Bobi Jones]] a [[Waldo Williams]]. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y [[Saesneg]] yn gallu bod yn aelodau. Yn [[1968]], crewyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth [[Cyngor Celfyddydau Cymru]] ar y pryd, sef [[Meic Stephens]], ar y cyd gydag aelodau o’r [[Guild of Welsh Writers]].
 
Mae'r Academi yn "Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru" ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis [[Llyfr y Flwyddyn]]). Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am [[Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd]].