Oasis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Oasis''' yn fand [[roc]] o [[Lloegr|Loegr]] a ffurfiwyd ym [[Manceinion]] ym 1991. Ffurfiwyd y grŵp gan [[Liam Gallagher]] (prif leisydd), Paul Arthurs (gitâr), [[Paul McGuigan (gitâr fâs) a Tony McCarroll (drymiau). Yn fuan ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio ymunodd brawd hŷn Liam sef [[Noel Gallagher]] (gitâr a lleisydd) â'r band. Mae Oasis wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau ledled y byd ac maent wedi cael wyth sengl a gyrhaeddodd rif un. Maent wedi ennill 15 [[Gwobrau NME|Gwobr NME]], 5 o [[Gwobrau BRIT|Wobrau BRIT]] a 9 [[Gwobrau Q|Gwobr Q]]. Y brodyr Gallagher yw prif gyfansoddwyr y band a nhw yw aelodau parhaol y band. Ar hyn o bryd, mae aelodau'r band yn cynnwys y gitarydd Gem Archer a'r gitarydd bâs Andy Bell ynghyd â'u drymiwr answyddogol Chris Sharrock.
 
Yn wreiddiol, daeth y band i'r amlwg tra'n perfformio yng nghlybiau nos Manceinion. Cawsant eu harwyddo i label recordiau annibynnol Creation Records ac yna rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Definitely Maybe ym [[1994]]. Y flwyddyn ganlynol, recordiodd y band (What's the Story) Morning Glory? ([[(1995)]]) gyda'i drymiwr newydd Alan White, tra'n herio eu cyfoedion Britpop [[Blur]] yn y siartiau. Ymddangosodd y brodyr Gallagher yn rheolaidd yn y papurau tabloid yn sgîl eu gwrthdaro brawdol a'u bywydau gwyllt gan greu enw i'w hunain fel bechgyn drwg pop ac fel band y bobl. Ym 1997, â'r band wedi cyrraedd uchafbwynt eu henwogrwydd, rhyddhawyd eu trydydd albwm, Be Here Now ([[(1997)]]). Yr albwm hon werthodd gyflymaf yn hanes y siart Brydeinig. Gwelwyd lleihad ym mhoblogrwydd y band yn yr [[Unol Daleithiau]] a chollodd Oasis dau o'i aelodau tymor hir Paul McGuigan a Paul Arthurs yn y cyfnod rhwng recordio a rhyddhau Standing on the Shoulder of Giants ([[(2000)]]) a Heathen Chemistry ([[(2002)]]).
 
[[Categori:Bandiau Seisnig]]