Oasis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn wreiddiol, daeth y band i'r amlwg tra'n perfformio yng nghlybiau nos Manceinion. Cawsant eu harwyddo i label recordiau annibynnol Creation Records ac yna rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Definitely Maybe ym [[1994]]. Y flwyddyn ganlynol, recordiodd y band (What's the Story) Morning Glory? ([[1995]]) gyda'i drymiwr newydd Alan White, tra'n herio eu cyfoedion Britpop [[Blur]] yn y siartiau. Ymddangosodd y brodyr Gallagher yn rheolaidd yn y papurau tabloid yn sgîl eu gwrthdaro brawdol a'u bywydau gwyllt gan greu enw i'w hunain fel bechgyn drwg pop ac fel band y bobl. Ym 1997, â'r band wedi cyrraedd uchafbwynt eu henwogrwydd, rhyddhawyd eu trydydd albwm, Be Here Now ([[1997]]). Yr albwm hon werthodd gyflymaf yn hanes y siart Brydeinig. Gwelwyd lleihad ym mhoblogrwydd y band yn yr [[Unol Daleithiau]] a chollodd Oasis dau o'i aelodau tymor hir Paul McGuigan a Paul Arthurs yn y cyfnod rhwng recordio a rhyddhau Standing on the Shoulder of Giants ([[2000]]) a Heathen Chemistry ([[2002]]).
 
Er gwaethaf recoriad cythryblus, daeth eu chweched albwm Don't Believe the Truth with Zak Starkey ([[2005]]), yr albwm a werthodd orau ac a dderbyniwyd orau gan y cyhoedd yn y ddegawd gyfan. Y flwyddyn ganlynol, rhyddhaodd y band albwm o amrywiaeth o ganeuon o'r enw Stop the Clocks. Ym mis Chwefror [[2007]], derbyniodd Oasis y [[GwobrGwobrau'r BRITBRITs|Wobr BRIT]] am eu cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth. Rhyddhawyd Dig Out Your Soul, eu seithfed albwm stiwdio ar y 6ed o [[Hydref]] [[2008]] gyda'r prif sengl o'r albwm honno'n cael ei rhyddhau ar y 29ain o [[Medi|Fedi]] [[2008]]. Ar gyfer eu taith presennol, mae Chris Sharrock wedi ymuno â'r band.
 
[[Categori:Bandiau Seisnig]]