Oasis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Erthygl am y band roc yw hon. Am y dirffurf ('oasis'), gweler [[gwerddon]].''
[[Delwedd:Oasis.jpg|thumb|right|Oasis]]
Mae '''Oasis''' yn fand [[roc]] o [[Lloegr|Loegr]] a ffurfiwyd ym [[Manceinion]] ym 1991. Ffurfiwyd y grŵp gan [[Liam Gallagher]] (prif leisydd), Paul Arthurs (gitâr), [[Paul McGuigan (gitâr fâs) a Tony McCarroll (drymiau). Yn fuan ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio ymunodd brawd hŷn Liam sef [[Noel Gallagher]] (gitâr a lleisydd) â'r band. Mae Oasis wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau ledled y byd <ref>[http://www.ilikemusic.com/music_news/Oasis_To_Be_Honoured_At_Brit_Awards_2007-3066/2 ilikemusic.com</ref> ac maent wedi cael wyth sengl a gyrhaeddodd rif un. Maent wedi ennill 15 [[Gwobrau NME|Gwobr NME]], 5 o [[Gwobrau BRIT|Wobrau BRIT]] a 9 [[Gwobrau Q|Gwobr Q]]. Y brodyr Gallagher yw prif gyfansoddwyr y band a nhw yw aelodau parhaol y band. Ar hyn o bryd, mae aelodau'r band yn cynnwys y gitarydd Gem Archer a'r gitarydd bâs Andy Bell ynghyd â'u drymiwr answyddogol Chris Sharrock.
 
Yn wreiddiol, daeth y band i'r amlwg tra'n perfformio yng nghlybiau nos Manceinion. Cawsant eu harwyddo i label recordiau annibynnol Creation Records ac yna rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Definitely Maybe ym [[1994]]. Y flwyddyn ganlynol, recordiodd y band (What's the Story) Morning Glory? ([[1995]]) gyda'i drymiwr newydd Alan White, tra'n herio eu cyfoedion Britpop [[Blur]] yn y siartiau. Ymddangosodd y brodyr Gallagher yn rheolaidd yn y papurau tabloid yn sgîl eu gwrthdaro brawdol a'u bywydau gwyllt gan greu enw i'w hunain fel bechgyn drwg pop ac fel band y bobl. Ym 1997, â'r band wedi cyrraedd uchafbwynt eu henwogrwydd, rhyddhawyd eu trydydd albwm, Be Here Now ([[1997]]). Yr albwm hon werthodd gyflymaf yn hanes y siart Brydeinig. Gwelwyd lleihad ym mhoblogrwydd y band yn yr [[Unol Daleithiau]] a chollodd Oasis dau o'i aelodau tymor hir Paul McGuigan a Paul Arthurs yn y cyfnod rhwng recordio a rhyddhau Standing on the Shoulder of Giants ([[2000]]) a Heathen Chemistry ([[2002]]).
 
Er gwaethaf recoriad cythryblus, daeth eu chweched albwm Don't Believe the Truth with Zak Starkey ([[2005]]), yr albwm a werthodd orau ac a dderbyniwyd orau gan y cyhoedd yn y ddegawd gyfan. Y flwyddyn ganlynol, rhyddhaodd y band albwm o amrywiaeth o ganeuon o'r enw Stop the Clocks. Ym mis Chwefror [[2007]], derbyniodd Oasis y [[Gwobrau'r BRITs|Wobr BRIT]] am eu cyfraniad aruthrol i gerddoriaeth. Rhyddhawyd Dig Out Your Soul, eu seithfed albwm stiwdio ar y 6ed o [[Hydref]] [[2008]] gyda'r prif sengl o'r albwm honno'n cael ei rhyddhau ar y 29ain o [[Medi|Fedi]] [[2008]]. Ar gyfer eu taith presennol, mae Chris Sharrock wedi ymuno â'r band.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Bandiau Seisnig]]