HIV: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 73 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q15787 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
 
[[Firws]] yw '''Firws Diffyg Imiwnedd Dynol''' ({{Iaith-en|Human Immune Deficiency Virus}} neu ''HIV''). Mae'n fath o firws a elwir yn wrth-firws (''retrovirus''), sy'n heintio [[Cell (bioleg)|celloedd]] o'r system imiwnedd dynol, (gan fwyaf celloedd T CD4 positif a macroffagau, sy'n gydrannau allweddol o'r system imiwnedd gellog), ac fe ddinistrir neu amharir ar eu gweithrediad. Mae heintiad â HIV yn arwain at ddirywiad cynyddol o'r system imiwnedd gan ddilyn i 'ddiffygiant imiwnedd'.
 
Fe ystyrir y [[system imiwnedd]] yn ddiffygiol pan na ellir bellach gyflawni ei waith o ymladd afiechydon a heintiau. Mae pobl sydd â diffyg imiwnedd yn fwy tebygol o ddal heintiau sy'n anghyffredin ymysg pobl â system imiwnedd iach. Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.
 
Nid oes iachâd i HIV ac nid oes brechlyn yn bodoli i atal heintio. Fodd bynnag, ers y 1990au, mae triniaethau cyffuriau sy'n atal gweithgaredd y firws yn y celloedd wedi cael eu datblygu. Mae'r rhain yn galluogi'r rhan fwyaf o bobl gyda HIV i aros yn iach a byw bywydau cymharol normal.
Gelwir heintiau sy'n gysylltiedig â diffyg imiwnedd difrifol yn 'heintiau manteisgar' am eu bod yn cymryd mantais o system imiwnedd wan.
 
== Retrofirwsau ==
Mae retrofirwsau, fel HIV yn anarferol gan fod eu deunydd genetig yn cael ei godio mewn [[RNA]] ac nid [[DNA]]. Mae'r retrofirysau’n 'herwgipio' biocemeg y gell heintiedig i wneud llawer o gopïau o'u hunain. Yn y broses o greu'r copïau hyn er mwyn chwilio am fwy o gelloedd i'w heintio, caiff y gell heintiedig ei dinistrio. Mae'n arbennig o anodd datblygu brechlynnau ar gyfer retrofirysau gan eu bod yn mwtanu (newid) yn gyflym yn rhywogaethau newydd o firws. Hyd yma rydym wedi methu â darganfod ffordd o wneud brechlyn effeithiol ar gyfer HIV.
 
Caiff y firws HIV ei ymledu drwy gyfnewid hylifau corfforol, fel gwaed, [[semen]] a hylifau gweiniol. Y ffordd fwyaf cyffredin o ymledu HIV yw drwy [[Cyfathrach rywiol|gyfathrach rywiol]], yn cynnwys [[rhyw geneuol]] a rhefrol. Gall y firws hefyd ymledu drwy rannu nodwyddau, a rhwng menyw feichiog a'i baban heb ei eni. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddatblygiadau mewn triniaeth, mae nawr yn bosibl atal y firws rhag cael ei drosglwyddo rhwng mam a'i phlentyn.<ref name=":0" />
 
== Hanes ==
Mae union darddiad HIV yn parhau i fod yn anhysbys, ond mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno bod ffurf o'r firws, a elwir yn SIVcpz (Firws Diffyg Imiwnedd Simiaidd ar gyfer tsimpansïaid), yn bresennol (ac yn dal i fod yn bresennol) mewn [[Tsimpansî|tsimpansïaid]] sy'n byw mewn rhannau o [[Affrica]]. Un ddamcaniaeth yw bod y firws wedi ymledu i fodau dynol a oedd yn hela'r tsimpansïaid, efallai am iddynt fod mewn cysylltiad agos â [[gwaed]] y tsimpansî heintiedig. Credir bod y ffurf ddynol o'r firws HIV wedi'i chyfyngu i ran anghysbell o Affrica am lawer o flynyddoedd.
Fodd bynnag, pan agorwyd y rhan honno o Affrica gan gysylltiadau cludiant newydd, ymledodd y firws i rannau eraill o Affrica, cyn ymledu'n araf ar draws y byd.<ref name=":0" />
 
== Symptomau HIV ==
Llinell 15 ⟶ 26:
 
Gall y rhan helaeth o'r heintiau manteisgar hyn gael eu trin yn hawdd mewn pobl fel-arall iach.
 
== Diagnosis ==
Oherwydd y cyffelybiaethau rhwng y symptomau â chyflyrau eraill, ar y gorau dim ond arwydd o haint HIV yw'r symptomau. Yr unig brawf diagnostig sicr yw [[prawf gwaed]]. Bydd y prawf ddim ond yn canfod HIV ar ôl tri mis wedi'r haint cychwynnol. Felly, mae'n arferol cynnal ail brawf tri mis ar ôl yr un cyntaf, er mwyn sicrhau bod y diagnosis yn gywir.<ref name=":0" />
 
== Triniaeth ==
 
=== PEP ===
Proffylacsis Ôl-gysylltiad (PEP yw unrhyw driniaeth feddygol ataliol a ddechreuwyd ar ôl i amgen gael ei amlygu ,fel firws sy'n achosi afiechyd, er mwyn atal yr haint rhag digwydd. Er mwyn i'r driniaeth fod yn effeithiol, dylai hon ddechrau o fewn 72 awr (tri diwrnod) o'r cysylltiad, a chyntaf oll bydd yn dechrau, mwyaf effeithiol fydd hon. Fel rheol argymhellir PEP os ydych wedi cael rhyw gweiniol neu refrol diamddiffyn gyda rhywun sydd â HIV neu os ydych wedi derbyn rhyw rhefrol gan rywun sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV. Er nad oes gwarant na fyddwch yn datblygu HIV, gall helpu i'ch amddiffyn
Gellir hefyd ystyried PEP os ydych wedi rhoi rhyw geneuol (fellatio) i rywun sydd â HIV neu sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV, ac fe wnaethon nhw alldaflu (ddod) yn eich ceg, neu os ydych wedi cael rhyw gweiniol neu refrol diamddiffyn gyda rhywun sydd â phosibilrwydd uchel o fod â HIV. Gellid hefyd cynghori gweithwyr gofal iechyd sydd wedi eu rhoi mewn perygl, e.e. drwy anaf 'pigiad nodwydd’, i gael PEP.<ref name=":0" />
 
=== Therapi gwrth-retrofirol tra gweithredol (HAART) ===
Therapi gwrth-retrofirol tra gweithredol (HAART) yw'r defnydd o [[Cyffuriau|gyffuriau]] lluosog sy'n gweithredu ar dargedau [[Firws|firysau]] gwahanol. Me hyn wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn arafu cynnydd y cyflwr ac estyn bywyd.
 
Mae ymchwilwyr yn hyderus y bydd y gwelliannau parhaus mewn therapi yn golygu y bydd person gyda HIV yn cael yr un rhychwant oes â rhywun nad oes ganddynt y cyflwr.
Mae'r therapi'n cynnwys cyfuniad o foddion. Mae hyn oherwydd y gall HIV addasu'n gyflym a mynd yn ymwrthiol i un moddion penodol. Felly, mae angen cyfuniad o wahanol foddion.
Ceir llawer o wahanol fathau o foddion y gellir eu defnyddio fel rhan o'ch therapi. Maen nhw'n cynnwys:
* atalyddion transgriptas cildroi niwcleosid (NRTIau neu 'nukes')
* atalyddion transgriptas cildroi diniwcleosid (NNRTIau neu 'non-nukes')
* atalyddion proteas
* atalyddion ymasiad
* atalyddion integras
 
Mae'r gwahanol fathau o foddion hyn yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd, ond pwrpas pob un yw torri ar draws cylchred atgynhyrchiol y firws er mwyn arafu ei ymlediad ac amddiffyn y system imiwnedd.
Argymhellir bod y rhan fwyaf o bobl gyda HIV yn cymryd dau fath o feddyginiaeth o'r dosbarth NRTIau, ynghyd â moddion o ddosbarth arall.
Nod y driniaeth yw darganfod y cyfuniad gorau o foddion, a lleihau unrhyw sgil effeithiau.<ref name=":0" />
 
== Rheolaeth ==
Mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â chonsesiynau ar bris cyffuriau Haart i'w defnyddio mewn gwledydd trydydd byd yn rhan o reolaeth fyd-eang y firws.
Gall dewisiadau dull o fyw priodol leihau'r tebygrwydd o ddal y clefyd, megus lleihau'r nifer o bartneriaid rhywiol.
 
Defnyddio [[condom]] yn ystod rhyw, yn cynnwys rhyw geneuol a rhefrol, yw'r ffordd orau o atal cael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys HIV.
Defnyddio ireidiau seiliedig ar ddŵr fel jeli K-Y yn hytrach na Vaseline neu olew babanod fel iraid ar gyfer gweithgaredd rhywiol, gan fydd yr ireidiau diwethaf hyn sy'n seiliedig ar olew yn gwanhau condomau ac yn cynyddu'r posibilrwydd y byddant yn hollti.
 
Dylai chwistrellwyr cyffuriau osgoi rhannu nodwyddau gan y gallai hyn drosglwyddo HIV, ynghyd â firysau difrifol eraill a gludir drwy waed, fel [[hepatitis C]]..<ref name=":0">{{Cite web|url=http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16|title=Iechyd a GofalCymdeithasol|date=2011|accessdate=2017|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
 
 
 
==Gweler hefyd==
Llinell 20 ⟶ 68:
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
* {{eicon en}} [http://data.unaids.org/pub/FactSheet/2008/20080519_fastfacts_hiv_en.pdf Fast fact about HIV] o wefan [[UNAIDS]] (''Joint United Nations Programme On HIV/AIDS'').
 
[[Categori:Afiechydon]]
[[Categori:Firysau]]
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]