Beryl Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Actores Gymreig oedd Beryl Williams. Fe'i ganed ym 1937 yn Nolgellau yn ferch i deiliwr alcoholig <ref>http://www.theatre-wales.co.uk/barn/manylion.asp?barnID=6</re...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Actores Gymreig oedd Beryl Williams [[1937]]-[[2004 ]]. Fe'i ganed ym [[1937]] yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn ferch i deiliwr alcoholig <ref>http://www.theatre-wales.co.uk/barn/manylion.asp?barnID=6| Teyrnged Dyfan Roberts i'r actores Beryl Williams</ref>. Mynychodd Ysgol breswyl Dr. Williams i ferched wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth. Cymrodd ran mewn dramâu yn yr ysgol cyn mynd yn fyfyrwraig i Goleg Drama Rose Bruford yn [[Llundain]]. Tra yno, cyfarfu a Freddie Jones sef un o brif actorion y theatr yn Lloegr a datblygodd berthynas rhyngddynt <ref> http://www.theatre-wales.co.uk/barn/manylion.asp?barnID=6</ref>. Serch hynny, ar ôl iddi orffen ei chwrs dychwelodd i Ddolgellau.
 
Bu'n gweithio fel actores tan y 1990au gan berfformio mewn cynhyrchiadau ar gyfer y [[BBC]], [[Cwmni Theatr Cymru]], ambell gynhyrchiad Saesneg a dramâu [[S4C]] yn y 1980au. Bu Williams yn gweithio gyda'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama Wilbert Lloyd Roberts ar amryw o ddramâu arloesol gan gynnwys "A Rhai yn Fugeiliaid" gan Islwyn Ffowc Elis ([[1961]]) a'r "Byd ar Betws, gyda David Lyn a Gaynor Morgan Rees.
 
 
== Cyfeiriadau ==
 
{{cyfeiriadau}}