Cyngor Llyfrau Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B Cyngor Llyfrau Cymraeg oedd yr enw, nid Cymreig
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Sefydlwyd '''Cyngor Llyfrau Cymru''' yn [[1961]] fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Erbyn heddiw noddir hi gan [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Lywodraeth Cymru]]. Amcanion y Cyngor yw i hybu diddordeb mewn llyfrau [[Cymraeg]] a llyfrau [[Saesneg]] o ddiddordeb i [[Cymru|Gymru]], hybu'r diwydiant cyhoeddi, cynorthwyo a chefnogi awduron drwy gynnig amryw o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Maent yn darparu gwasanaethau golygu a dylunio i gyhoeddwyr, darparu grantiau i awduron yn ogystal a grantiau cyhoeddwyr er mwyn hybu cyhoeddi llyfrau, gwasanaethau i lyfrgelloedd a chyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol.
 
Mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yng [[Castell Brychan|Nghastell Brychan]], [[Aberystwyth]] ac erbyn hyn, canolfan dosbarthu yn Mharc Busnes Glanyrafon ar gyrion y dref. Mae gan y ganolfan, drosiant o bron i £5.5 miliwn y flwyddyn (net) a mae 49 o aelodau staff parhaol yn gweithio rhwng y ddau safle.
 
Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio ar y cyd gyda nifer o gyrff a chwmniau eraill megis yr [[Academi Gymreig]], [[Urdd Gobaith Cymru]] ac [[S4C]]. Mae'nt yn ymwneud â trefnu a hysbysebu gwobrau [[Llyfr y Flwyddyn]], [[Bardd Plant Cymru]] a [[Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi]].