Ségou: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Marchnad Ségou Dinas yn ne canolbarth Mali, gorllewin Affrica, sy'n gorwedd 235 km (146 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o [[Bama...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dinas yn ne canolbarth [[Mali]], gorllewin [[Affrica]], sy'n gorwedd 235 km (146 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o [[Bamako]] ar [[afon Niger]], tua hanner ffordd rhwng y ddinas honno a [[Mopti]] yw '''Ségou''' (hefyd ''Seku'', ''Segu'' weithiau). Mae'n ganolfan weinyddol y rhanbarth o'r un enw. Sefydlwyd Ségou gan y bobl [[Bozo]] yn 1620, ar safle sy'n gorwedd tua 10 km (6.2 milltir) y tu allan i'r ddinas bresennol. Gyda phoblogaeth o tua 100,000, Ségou yw dinas drydedd fwyaf Mali.
 
Yn y gorffennol roedd Ségou yn brifddinas [[Ymerodraeth Bambara]] ac felly mae ganddi ran bwysig yn hanes Mali. Cyfeirir ati weithiau fel dinas y “Balanzan”, ar ôl y goeden [[acesia]] leol, ''acacia albida''. Trwy gydol ei hanes mae Ségou wedi mwynhau perthynas masnachol agos â dinasoedd [[DjenneDjenné]] a [[Tombouctou]] ([[Timbuktu]]), ac mae'n aros yn ganolfan masnachu [[grawnfwyd]] a [[gwartheg]] er bod gwaith [[crochenwaith]] a [[pysgota|physgota]] yn bwysig hefyd.