Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu |
|||
Llinell 1:
Roedd Syr '''Rhys ap Thomas''' ([[1449]] - [[1525]]) yn un o uchelwyr mwyaf grymus de [[Cymru]] yn ail hanner y [[15fed ganrif]], a bu ganddo ran bwysig ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]].
==Gyrfa==
Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn [[Dyffryn Tywi|Nyffryn Tywi]]; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion [[Urien Rheged]]. Llwyddodd ei daid, [[Gruffudd ap Nicolas]], i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, [[Thomas ap Gruffudd]], yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, [[Abermarlais]] (ger [[Llandeilo]]), rhywbryd cyn [[1446]].
Erbyn i [[Harri Tudur]] lanio yn [[Sir Benfro]] yn Awst [[1485]] roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi Brwydr Bosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo. Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys [[Lewys Glyn Cothi]], [[Dafydd Nanmor]], [[Huw Cae Llwyd]] a [[Tudur Aled]].
==Bywgraffiad==
Ysgrifenwyd hanes bywyd Syr Rhys ap Thomas gan ei ddisgynydd [[Henry Rice]] yn y 1620au, dan y teitl ''A short view of the long life... ofRice ap Thomas''. Arosodd mewn llawysgrif hyd 1796 pan gafodd ei gyhoeddi yn ''[[The Cambrian Register]]'' dan olygyddiaeth [[William Owen Pughe]] wrth y teitl ''The Life of Sir Rhys ap Thomas''. Cafodd ei olygu yn llawn am y tro cyntaf a'i gyhoeddi yn 1993 gan yr hanesydd [[Ralph A. Griffiths]] yn ei gyfrol ''Sir Rhys ap Thomas and his Family'' (gweler isod). Mae'n dal ei gymharu â ''[[The History of the Gwydir Family]]'' gan [[Syr John Wynn o Wydir]] fel un o'r ychydig enghreifftiau o lyfrau hanes teuluol cynnar yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr yr Oesoedd Canol Diweddar.
==Llyfryddiaeth==
|