Afon Rheidol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Ychwanegu: fr:Rheidol
Ceredigion
Llinell 1:
Mae '''Afon Rheidol''' yn [[afon]] yng nghanolbarth [[Cymru]] sy'n llifo'n bennaf trwy [[Ceredigion|Geredigion]].
 
Mae tarddle Afon Rheidol yn y nentydd sy'n llifo i mewn i gronfa ddŵr [[Nant y Moch]] (ger safle [[brwydr Hyddgen]], [[1401]]) ar lethrau gorllewinol [[Pumlumon]] ac yna'n llifo tua'r de trwy bentref [[Ponterwyd]] cyn i [[Afon Mynach]] ymuno â hi. Yn fuan ar ôl cymer Afon Mynach, mae Rheidol yn disgyn dros raeadr wrth ymyl pentref [[Pontarfynach]]. Mae yn awr yn llifo tua'r gorllewin heibio i hen gloddfa [[Plwm|blwm]] [[Cwm Rheidol]]. Er bod y gloddfa yma wedi cau, mae'n parhau i effeithio ar ddŵr Afon Rheidol. Mae'r afon yn awr yn parhau tua'r gorllewin ac yn cyrraedd y môr yn harbwr [[Aberystwyth]].
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Rheidol]]
[[Categori:Afonydd Ceredigion|Rheidol]]
{{eginyn Ceredigion}}
 
[[br:Rheidol]]