Mahatma Gandhi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2), Yr oedd → Roedd (6) using AWB
Llinell 9:
== Bywyd cynnar ==
 
Ganed Gandhi i deulu Hindŵaidd yn [[Porbandar]] yn nhalaith [[Gujarat]], India yn [[1869]]. Yr oeddRoedd ei dad yn dal swydd uchel yn Porbandar. Priodwyd ef yn 15 oed i [[Kasturba Gandhi|Kasturba Makharji]], hithau yn 13 oed. Caswant bedwar mab: Harilal, Manilal, Ramdas a Devdas Gandhi. Addysgwyd ef yn Porbandar ac yna yn Rajkot a Bhavnagar. Dymunai ei rieni iddo fod yn [[bargyfreithiwr|fargyfreithiwr]] a gyrrwyd ef i [[Llundain|Lundain]] yn 19 oed i'w hyfforddi yn y gyfraith.
 
Yr oeddRoedd Gandhi wedi addo i'w fam cyn cychwyn i Lundain na fyddai'n cyffwrdd cig nag alcohol tra byddai yno. Ymunodd a Chymdeithas y Llysieuwyr, a daeth rhai o aelodau'r gymdeithas yma ag ef i gysylltiad a'r Theosophyddion a gafodd gryn ddylanwad arno, gan ei annog i astudio'r [[Bhagavad Gita]].
 
Dychwelodd i India i geisio gwaith fel cyfreithiwr, ond heb lawer o lwyddiant. Derbyniodd gynnig gan gwmni Indiaidd yn [[Natal]], [[De Affrica]] i fynd yno fel cyfreithiwr.
 
== Gandhi yn Ne Affrica ==
Yn Ne Affrica y dechreuodd Gandhi gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Un o'r digwyddiadau a ysbrydolodd hyn oedd cael ei daflu oddi ar drên yn [[Pietermaritzburg]] pan ar daith i [[Pretoria]]. Yr oeddRoedd ganddo diced dosbarth cyntaf, ond pan wrthwynebodd un o'r teithwyr gwyn rannu'r dosbarth cyntaf gydag Indiad, dywedwyd wrtho am symud i'r trydydd dosbarth. Gwrthododd Gandhi, a thaflwyd ef o'r trên.
 
Dechreuodd ymgyrchu yn erbyn rhai o'r deddfau oedd yn cadw'r boblogaeth Indiaidd yn Ne Affrica mewn safle israddol. Yr oeddRoedd senedd Natal yn bwriadu pasio deddf i atal Indiaid rhag pleidleisio, a chymerodd Ganhi ran amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn y ddeddf.
Ni lwyddwyd i atal y ddeddf yma rhag dod i rym, ond aeth ymlaen i ymgyrchu ar faterion eraill, gan sefydlu Cyngres Indiaidd Natal yn 1894. Yn 1906 daeth llywodraeth y [[Transvaal]] a deddf ymlaen i orfodi pob Indiad i gofrestru, a bu Gandhi eto'n amlwg yn gwrthwynebu hyn, gan lwyddo i berswadio'r llywodraeth i gymrodeddu. Yr adeg yma y datblygodd ei syniadau am ''satyagraha'' neu "ffyddlondeb i'r gwirionedd". Heblaw'r Bhagavad Gita, cafodd syniadau [[Lev Tolstoy]] ddylanwad mawr arno.
 
Llinell 25:
Dychwelodd Gandhi i India yn [[1914]]. Yn 1918, dechreuodd ymgyrch dros ffermwyr tlawd Champaran yn nhalaith [[Bihar]], oedd yn cael eu gorfodi i dyfu indigo a chnydau tebyg yn hytrach na thyfu bwyd i'w teuluoedd, gan arwain at [[newyn]]. Yr adeg yma y galwyd ef yn ''Mahatma'' am y tro cyntaf. Yn dilyn hyn pasiwyd y Rowlatt Act yn 1919, oedd yn rhoi hawl i'r llywodraeth garcharu gwrthwynebwyr heb achos llys. Yn y terfysgoedd a ddilynodd hyn, lladdwyd 179 o brotestwyr heb arfau gan filwyr Prydeinig yn [[Amritsar]].
 
Yn Ebrill [[1920]], etholwyd Gandhi yn arlywydd yr "All-India Home Rule League", a than ei arweiniad ef cytunodd y Gyngres Indiaidd ar y nôd o ''swaraj'' (anibyniaeth). Yr oeddRoedd cynlluniau Gandhi o ymgyrchu di-drais yn cynnwys gwrthod prynu nwyddau Prydeinig a cheisio bod yn hunan-gynhaliol. Treuliai Gandhi ei hun oriau yn nyddu ar droell i osgoi prynu brethyn Prydeinig. Cafodd hyn gryn lwyddiant, ond pan fu terfysg yn [[Uttar Pradesh]] yn [[1922]] ataliodd Gandhi yr ymgyrch. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn fuan wedyn a chafodd ddedfryd o chwe blynedd o garchar. Rhyddhawyd ef oherwydd afiechyd yn [[1924]]
 
Yn [[1930]] dechreuodd ar ei ymgyrch enwocaf, y "Daith Halen", 248 milltir o [[Ahmedabad]] i Dandi yn Gujarat i gasglu halen o'r môr, oedd yn torri deddf oedd yn gwahardd i Indiaid wneud eu halen eu hunain. Carcharwyd dros 60,000 o bobl yn ystod yr ymgyrch yma.
[[Delwedd:Gandhi Salt March.jpg|bawd|230px|Gandhi yn ystod y "Daith Halen" (1930)]]
 
Yr oeddRoedd Gandhi hefyd yn ymgyrchu ar ran y Dalit, y bobl oedd islaw y sysyem [[caste]] yn yr India. Arweiniai ymgyrchoedd o'i [[ashram]] yn [[Sevagram]] lle roedd yn byw bywyd syml gyda'i ddilynwyr.
 
Ddechrau'r 1940au dechreuodd ymgyrch newydd gyda'r arwyddait "Quit India!". Carcharwyd ef eto yn [[1942]] yngyd ag arweinwyr eraill y Gyngres. Tra'r oedd yn y carchar bu farw ei wraig Kasturbai. Erbyn diwedd yr [[Ail Ryfel Byd]] yr oeddroedd yn amlwg fod Prydain yn barod i adael India. Yn groes i ddymuniad Gandhi, oedd yn credu y dylai [[Mwslimiaid]] a [[Hindwiaid]] fyw gyda'i gilydd fel brodyr, cytunwyd i rannu'r wlad yn [[India]] a [[Pakistan]]. Cyhoeddwyd anibyniaeth India yn [[1947]].
 
Yn Ionawr [[1948]] yr oeddroedd Gandhi ar ei ffordd i gyfarfod gweddi yn [[Delhi]] pan saethwyd ef yn farw gan [[Nathuram Godse]], aelod o grwp Hindŵaidd a gredai fod Gandhi yn rhy ffafriol i'r Mwslimiaid. Llosgwyd ei gorff yn Delhi ym mhresenoldeb cannoedd o filoedd o alarwyr, a gwasgarwyd ei ludw ar y môr.
 
== Dywediadau gan Gandhi ==