Malacara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1:
Ceffyl oedd '''Malacara''' (bu farw 1909). Enillodd le yn hanes [[y Wladfa]] trwy naid a achubodd fywyd ei farchog, [[John Daniel Evans]], pan ymosodwyd arnynt gan Indiaid ar daith i'r [[Andes]].
Roedd John Daniel Evans yn dair oed pan gyrhaeddodd [[Patagonia]] gyda'r mewnfudwyr Cymreig cyntaf yn [[1865]]. Fel y tyfodd y Wladfa, prinhaodd tir ffrwythlon yn rhan isaf [[Afon Camwy|Dyffryn Camwy]], a bu gan John Evans ran amlwg yn y gwaith o fforio'r rhan uchaf o'r dyffryn i gyfeiriad yr Andes, gan ddefnyddio sgiliau a ddysgodd gan y brodorion [[Tehuelche]].
Erbyn diwedd Chwefror 1884, roeddynt wedi cyrraedd Afon Gualjaina, ac yno roedd tri aelod o'r llwyth oedd dan arweiniad y ''[[cacique]]'' [[Foyel]]. Roedd un o'r tri, Juan Salvo, yn eu hadnabod, a dywedodd ei fod yn amau eu bod yn ysbïo dros y fyddin, Ceisiodd ei harwain at Foyel, a phan wrthodasant, datblygodd cweryl. Penderfynodd y pedwar ddychwelyd i ran isaf Dyffryn Camwy, 600 km i ffwrdd, gyda rhyfelwyr Foyel yn ei dilyn. Ar [[4 Mawrth]] ymosodwyd arnynt, a lladdwyd tri chydymaith Evans. Sbardunodd John Evans ei geffyl, Malacara, tua dibyn serth, a llamodd Malacara i lawr y dibyn ac i fyny yr ochr arall. Ni feiddiai yr un o'r ymosodwyr geisio ei ddilyn, a llwyddodd John Evans i ddychwelyd i'r Wladfa yn ddiogel. Cafodd y man lle bu'r ymosodiad yr enw Dyffryn y Merthyron ([[Sbaeneg]]:''Valle de los Mártires'').
|