Marilyn Monroe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd , ym mis Ebrill → yn Ebrill , ym mis Mehefin → ym Mehefin (2), ym mis Medi → ym Medi (2), ym mis Rhagfyr → yn Rhagfyr (2), Ym mis Mawrth → Y using AWB |
||
Llinell 29:
Pan briododd Grace McKee Ervin Silliman Goddard ym [[1935]], danfonwyd Monroe i Gartref Plant Amddifad Los Angeles, (a gafodd ei ail-enwi'n Hollygrove yn ddiweddarach). Dwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd Norma Jeane yn ôl i fyw gyda Grace, Goddard ac un o ferched Goddard o briodas blaenorol. Pan geisiodd Goddard gamdrin Norma Jeane, danfonodd Grace hi i fyw gyda'i hen fodryb, Olive Brunings. Ymosododd un o feibion Olive Norma Jeane pan oedd yn ddeuddeg oed, ac aeth i fyw gyda modryb Grace, Ana Lower. Pan ddatblygodd Ana broblemau iechyd, aeth Norma Jeane i fyw gyda Grace ac Ervin Goddard unwaith eto, lle cyfarfu â mab eu cymydog, Jim Dougherty, a dechreuodd berthynas gydag ef.
Am fod Grace a'i gŵr ar fin symud i arfordir orllewinol yr Unol Daleithiau, nid oeddent yn medru mynd a Norma Jeane gyda hwy. Roedd teulu arall eisiau mabwysiadu Norma Jeane ond nid oedd Gladys wedi cytuno i hyn. Awgrymodd Grace i gymydog y gallai ei mab, James Dougherty, briodi Norma Jeane er mwyn sicrhau nad oedd yn dychwelyd i'r cartref i blant amddifad, ac ym
COUCOU
Llinell 45:
Ym 1948, arwyddodd Monroe gytundeb chwe mis gyda [[Columbia Pictures]], lle cyfarfu â prif hyfforddwraig drama'r cwmni, Natasha Lytess, a hyfforddodd Monroe i actio dros y blynyddoedd olynnol.<ref>Summers, td. 38</ref> Serennodd mewn [[sioe gerdd]] o'r enw ''Ladies of the Chorus'', ond nid oedd y ffilm yn lwyddiant ac ni adnewyddwyd ei chytundeb.<ref>Summers, td. 43</ref> Ymddangosodd mewn rôl fechan yn ffilm y [[Brodyr Marx]], ''[[Love Happy]]'' (1949) a chafodd argraff dda ar y [[cynhyrchydd|cynhyrchwyr]]. O ganlyniad, fe'i danfonwyd i [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] fel rhan o'r ymgyrch i hyrwyddo'r ffilm.<ref>Summers, td. 45</ref>
Yn sgîl llwyddiant ''Love Happy'', cytunodd yr asiant Johnny Hyde i gynrychioli Monroe. Trefnodd glywediad iddi gyda John Huston, a roddodd rhan iddi yn y ddrama The Asphalt Jungle, fel meistres ifanc i droseddwr hŷn. Derbyniodd ei pherfformiad feirniadaethau clodwiw. Dywedodd yr ysgrifennwr a'r cyfarwyddwr Herman Mankiewicz mai diniweidrwydd Monroe oedd ei phrif apel a'i bod yn gwbl addas ar gyfer y rhan. Wedi llwyddiant Monroe yn y rôlau hyn, negydodd Hyde gytundeb saith mlynedd i Monroe gyda chwmni 20th Century Fox, ychydig cyn ei farwolaeth
Cofrestrodd Monroe ar gwrs llenyddiaeth a gwerthfawrogi celf ym [[Prifysgol Califfornia|Mhrifysgol Califfornia]], [[Los Angeles]] ac ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau bychan, gan serennu gyda pherfformwyr fel [[Mickey Rooney]], Constance Bennett, June Allyson, Dick Powell a Claudette Colbert. Ym
=== Datblygiad ei gyrfa ===
[[Delwedd:180px-Pb1253.jpg|bawd|dde|Monroe ar glawr cylchgrawn [[Playboy (cylchgrawn)|Playboy]]]]Ym
Ymddangosodd am y tro cyntaf ar glawr cylchgrawn ''[[Life (cylchgrawn)|Life]]''
[[Delwedd:Marilyn Monroe and Keith Andes in Clash by Night trailer.jpg|bawd|chwith|Monroe gyda Keith Andes yn ''Clash by Night'']] Dros y misoedd canlynol, rhyddhawyd pedair ffilm yn serennu Monroe. Cafodd Monroe ei rhoi ar fenthyciad i Stiwdios RKO er mwyn ymddangos mewn rôl cefnogol yn Clash by Night, drama Barbara Stanwyck, a gyfarwyddwyd gan Fritz Lang.[27] Rhyddhawyd y ffilm ym
Ystyriai [[Darryl F. Zanuck]] botensial Monroe yn rhywbeth a oedd yn werth ei ddatblygu, a rhoddodd ran iddi yn "Niagara", fel gwraig sy'n cynllwynio i lofruddio'i gŵr, a chwaraewyd gan Joseph Cotten.<ref name="Churchwell, td. 233">Churchwell, td. 233</ref> Tra'n ffilmio, sylwodd colurwr Monroe, Whitey Snyder, ar yr ofn llwyfan a oedd i aros gyda Monroe trwy gydol ei gyrfa, a chafodd ei neilltuo gan y cyfarwyddwr i gysuro a pherswadio Monroe wrth iddi baratoi ar gyfer ei golygfeydd.<ref>Summers, td. 74</ref>
Llinell 61:
[[Delwedd:Monroe sings from the trailer of Niagra.jpg|bawd|dde|Monroe fel Rose yn ''Niagra'']]Soniodd nifer o feirniaid y ffilm am y golygfeydd o natur rywiol <ref name="Churchwell, td. 233"/> ac am yr olygfa sy'n dangos Monroe o'r tu ôl iddi, wrth iddi gerdded tuag at [[Niagara Falls]]. Ar ôl gweld y ffilm, dywed i Constance Bennett ddweud, "There's a broad with her future behind her." <ref>Riese and Hitchens, td. 340</ref> Dywedodd Whitey Snyder hefyd mai tra'n paratoi ar gyfer y ffilm hon y llwyddodd Monroe i greu'r ddelwedd ar gyfer ei hun "the look, and we used that look for several pictures in a row... the look was established".<ref>Churchwell, td. 62</ref>
Er bod y ffilm yn lwyddiant, a pherfformiad Monroe yn derbyn adolygiadau cadarnhaol, weithiau byddai ei hymddygiad mewn digwyddiadau i hyrwyddo'r ffilm yn denu sylwadau negyddol. Beirniadawyd ei hymddangosiad yn seremoni gwobrwyo Photoplay mewn ffrog lamé euraidd. Dyfynnwyd [[Joan Crawford]] yn ngholofn papur newydd Louella Parsons yn trafod "fwlgareiddiwch" Monroe a chan ddisgrifio'i hymddygiad fel ymddygiad cwbl anaddas "i actores ac i wraig."<ref>Churchwell, td. 234</ref> Cafodd ei beirniadau hefyd am wisgo ffrog gyda'r gyddflin lawr i'w bogail bron, pan oedd yng Ngorymdaith Miss America ym
=== Ei llwyddiant yn y brif ffrwd ===
[[Delwedd:Marilyn Monroe in Gentlemen Prefer Blondes trailer.jpg|bawd|chwith|Monroe yn perfformio "Diamonds Are a Girl's Best Friend" yn ''Gentlemen Prefer Blondes'' (1953)]] Ei ffilm nesaf oedd ''Gentlemen Prefer Blondes'' (1953) a gyfarwyddwyd gan Howard Hawks ac a oedd yn serennu Jane Russell. Chwaraeodd Monroe ran Lorelei Lee, merch sioe ariangar, ac roedd angen iddi ganu a dawnsio. Daeth Monroe a Russell yn ffrindiau, gyda Russell yn disgrifio Monroe fel "very shy and very sweet and far more intelligent than people gave her credit for".<ref>Russell, td. 137</ref> Yn ddiweddarach, dywedodd yr arferai Monroe ddangos ei hymroddiad drwy ymarfer ei symudiadau dawns bob nos wedi i'r criw adael, ond
Ar noson agoriadol y ffilm yn [[Los Angeles]], gwasgodd Monroe a Rusell olion eu dwylo a'u traed i mewn i sment o flaen Theatr Tseiniaidd Grauman. Derbyniodd Monroe adolygiadau clodwiw a gwnaeth y ffilm dros ddwy cymaint ag y costiodd i'w chynhyrchu.<ref>Churchwell, td. 63</ref> Cysylltodd pobl ei pherfformiad o "Diamonds Are a Girl's Best Friend" gyda hi. Dynododd "Gentlemen Prefer Blondes" un o'r ffilmiau cynharaf lle cafodd Monroe ei gwisgo gan William Travilla, cynllunydd a fyddai'n darparu'r gwisgoedd ar ei chyfer mewn wyth o'i ffilmiau, gan gynnwys "Bus Stop, Don't Bother to Knock, How to Marry a Millionaire, River of No Return, There’s No Business Like Show Business, Monkey Business, a The Seven Year Itch<ref>{{eicon en}}http://www.palmspringslife.com/Blogs/The-Life/January-2009/The-Man-Who-Dressed-Marilyn-Monroe-the-legendary-William-Travilla/</ref>.
|