Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 43:
 
Yn ogystal â hyn, galwyd y "geisha" a weithiai mewn trefi [[onsen]] yn ''geisha onsen''. Mae gan y "geisha onsen" enw gwael o ganlyniad i'r nifer o buteiniaid mewn trefi bychain a alwodd eu hunain yn "geisha", yn ogystal a'r dawnsiau fel "Shallow River" (lle byddai'r dawnswyr yn codi eu sgertiau'n uwch ac yn uwch.) Ar y llaw arall, roedd y "geisha onsen" gwirioneddol yn gerddorion ac yn ddawnswyr profiadol a chymwys. Fodd bynnag, yn hunangofiant Sayo Masuda, "geisha onsen" a weithiodd yn Nhalaith Nagano yn ystod y 1930au, roedd pwysau dychrynllyd ar y gwragedd yma i werthu'u cyrff i'w cwsmeriaid.
 
 
== Perthynas Personol a danna ==
 
Disgwylir i geisha fod yn wragedd sengl; mae'r rheiny sy'n dewis priodi yn gorfod gadael y proffesiwn.
 
Yn draddodiadol yn y gorffennol, byddai geisha sefydlog yn cymryd ''danna'' neu noddwr. Yn gyffredinol, byddai'r ''danna'' yn wr cyfoethog, priod weithiau, a fedrai gynnal y costau uchel sy'n gysylltiedig â hyfforddi geisha a chostau eraill. Mae hyn yn digwydd yn achlysurol y dyddiau yma hefyd, ond pur anaml y gwelir hyn.
 
Efallai y byddai geisha a'i danna mewn cariad ac weithiau ni fyddent ond nid oedd agosatrwydd rhywiol byth yn wobr i'r danna am ei gefnogaeth ariannol. Mae'r gwerthoedd a'r confensiynnau traddodiadol yn y berthynas rhwng y geisha a'i danna yn gymhleth iawn ac nid oes llawer o bobl yn deall y berthynas, hyd yn oed gan bobl [[Siapan]].
 
Mae'n wir dweud bod rhyddid gan y geisha i ffurfio perthynas bersonol gyda dyn y bydd yn cyfarfod yn rhinwedd ei swydd ond mae'r perthynas o'r fath yn gorfod cael ei ddewis yn ofalus. Mae'r hanamachi yn dueddol o fod yn gymdeithas glos iawn ac felly gwneir popeth posib er mwyn gwarchod enw da yr unigolyn.
 
[[Categori:Diwylliant Japan]]