Madog ap Gruffudd II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Arglwydd [[Powys Fadog]] oedd '''Madog ap Gruffudd II''' (bu farw [[1277]]).
 
Etifeddodd deyrnas Powys Fadog yn y flwyddyn [[1269]] ar farwolaeth ei dad, [[Gruffudd Maelor II]] a rheolodd y dywysogaeth fechan o [[Castell Dinas Brân|Gastell Dinas Brân]], ger [[Llangollen]]. Roedd yn un o gefnogwyr amlycaf [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] ac yn gynghreiriad hollbwysig oherwydd safle Powys Fadog yn rheoli'r mynediad i [[Teyrnas Gwynedd|deyrnas Gwynedd]] o gyfeiriad [[Caer]] a'r Gororau. Ymddengys fod Llywelyn wedi seilio eu perthynas trwy drefnu i Fadog briodi ei chwaer [[Margaret ferch Gruffudd ap Llywelyn Fawr|Margaret]] ferch [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]], yn 1258, symudiad a ddigiodd frenin Lloegr.<ref>J. Beverley Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986), tud. 38.</ref>
 
Lladdwyd Madog yn ystod rhyfel [[1277]] rhwng Llywelyn a brenin Lloegr, wrth amddiffyn ei diroedd yn erbyn ymosodiad y brenin. Olynwyd ef gan ei frawd iau, [[Gruffudd Fychan I|Gruffudd]].