William Morris Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
 
== Blynyddoedd cynnar ==
Ganed ef yn rhif 7 Moreton Place, [[Pimlico]], [[Llundain]], yn unig fab i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, o [[Caergybi|Gaergybi]] a'i fam Jane o [[Llansanffraid-ym-Mechain|Lansanffraid-ym-Mechain]], [[Powys]]. Wedi marwolaeth ei fam mewn damwain trên yn [[Glastonbury]] ar 28 Mai 1869, pan oedd yn bedairsaith oed, bu'n byw gyda'i fodryb ddibriod Mary Hughes, chwaer ei dad, yn [[Llandudno]]. Bu'n fyw yn ei chartref ym Mryn Rosa, 16 Abbey Road; ceir plac ar y tŷ sy'n cofnodi hynny.<ref>Ivor Wynne Jones, ''Llandudno, Queen of Welsh Resorts'' (ail argraffiad 2002), tud. 37.</ref> Mynychai ysgol fechan George Roberts yn y dref, mewn adeilad a godwyd fel ysgol Capel Wesleyaidd Caersalem yn 1837; ceir hen blac ar y drws sy'n darllen "The Right Honourable William Morris Hughes, Premier of Australia 1916-23, was educated in this building".<ref>Ivor Wynne Jones, ''Llandudno, Queen of Welsh Resorts'' (ail argraffiad 2002), tud. 26.</ref> Symudodd oddi yno i fyw gyda theulu ei fam yn [[Sir Drefaldwyn]], lle gorffennodd ddysgu siarad Cymraeg.
 
== Awstralia ==