Cylch yr Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Y symbylaeth i sefydlu'r Cylch oedd yr hyn a alwent yn ddirywiad safon y Gymraeg ar y cyfryngau, ac yn neillduol ar [[Radio Cymru]] ac [[S4C]]. Sefydlwyd Cylch yr Iaith yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a ddaeth a chynrychiolwyr o sawl mudiad arall ynghŷd i drafod y sefyllfa. Dadl y Cylch yw bod agwedd yr awdurdodau sy'n rhedeg y prif gyfryngau Cymraeg yn "tanseilio a dinistrio’r iaith" yn hytrach na'i hyrwyddo a'i hesblygu yn iaith fyw fodern. Credant fod yr awdurdodau teledu a radio Cymraeg yng Nghymru yn meddwl mwy am yr angen i ddenu gwylwyr a gwrandawyr newydd (Saesneg) nag am eu dyletswydd statudol i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg a bod yr agwedd honno yn dadwneud gwaith athrawon a rhieni sy'n ceisio trosglwyddo'r iaith fel y dylai hi gael ei siarad i blant a phobl ifainc.
Canolbwynt
Mae Cylch yr Iaith yn cydweithredu gyda mudiadau eraill, fel [[Cymdeithas yr Iaith]].
|