Tsunami Cefnfor India 2004: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
Yn sgîl y drychineb, cynyddodd ymwybyddiaeth am yr angen am system rhybuddio am tsunami yng Nghefnfor India. Dechreuodd y [[Cenhedloedd Unedig]] weithio ar System Rybuddio Tsunami Cefnfor India ac erbyn 2005, roedd y camau cychwynnol yn eu lle. Mae rhai pobl wedi cynnig creu system rybuddio tsunami unedig byd-eang, a fyddai'n cynnwys Mor yr Iwerydd a'r Caribi.
 
[[Delwedd:KataNoiReceding.jpg|bawd|chwith|Y tonau'n encilio ar draeth Kata Noi, [[Gwlad Thai]]]]
Y rhybudd cyntaf am tsunami posib yw'r daeargryn ei hun. Fodd bynnag, gall tsunami ddigwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn ei hun, mewn man lle prin yw effaith y daeargryn. Hefyd, yn ystod y munudau cyn i tsunami daro, bydd y mor yn mynd allan o'r arfordir dros dro. Ar lannau Cefnfor India, achosodd hyn i drigolion lleol, yn enwedig plant, i fynd i'r traeth i ymchwilio ac i gasglu pysgod a adawyd ar y tywod. Aeth y mor allan cymaint a 2.5&nbsp;km (1.6 milltir) ac wrth i bobl fynd ar y rhan hwn o'r traeth, cafwyd canlyniadau trychinebus.<ref>{{eicon en}}Block, Melissa. [http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=4246573 "Sri Lankans Seek Lost Relatives After Tsunami."] All Things Considered/NPR. Rhagfyr 27, 2004.</ref>
 
Un o'r ychydig ardaloedd arfordirol a wacawyd cyn y tsunami oedd yr ynys IndonesiaiddIndonesaidd, Simeulue, a oedd yn agos iawn i ganolbwynt y daeargryn. Ar draeth Maikhao yng ngogledd [[Phuket]], [[Gwlad Thai]] roedd merch deg oed o'r Deyrnas Unedig, Tilly Smith wedi astudio tsunamis yn ei gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol. Adnabyddodd yr arwyddion pan welodd y mor ar drai a rhybuddiodd hi a'i rhieni eraill ar y traeth, gan gynorthwyo i wacau'r traeth.<ref>{{eicon en}}James Owen [http://news.nationalgeographic.com/news/2005/01/0118_050118_tsunami_geography_lesson.html Tsunami Family Saved by Schoolgirl's Geography Lesson] National Geographic. 2005-01-18. Adalwyd 2009-05-01</ref>
 
=== Y cylch encilio a chodi ===