Santes Canna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dileu'r Nodyn iaith
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Canna (santez) Santes Canna Llangan disc-headed cross slab (cropped).PNG|bawd|280px|Croes Santes Canna yn [[Llan-gan, Bro Morgannwg]].]]
Merch i Tewdwr ap Emyr Llydaw oedd '''Canna'''.<ref name=":0">Brereton T.D. 2000, ''The Book of Welsh Saints'', Glyndwr publishing</ref> Mae yn anodd bod yn sicr fod unrhyw llan wedi'i chysegru â hi, yn benodol, gan ei bod hi'n cael ei chymysgu gydag o leiaf tair santes arall: [[Ceinwen]], [[Ceindrych]] a [[Cenhedlon|Chenhedlon]] - tair o ferched [[Brychan]].
 
Dihangodd ei theulu o [[Llydaw|Lydaw]] ar ôl i Hoel gipio grym yno tua 546. Priododd â [[Sadwrn (sant)|Sadwrn]] oedd yn berthynas iddi; (roedd yntau a'i deulu hefyd wedi dianc o Lydaw) a chawsant fab, [[Crallo]]. Buont yn byw am gyfnod yn ne Cymru ble sefydlasant [[Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin|Llansadwrn]] ger [[Llanymddyfri]] cyn ymgartrefu ym Môn a sefydlu [[Llansadwrn, Ynys Môn|Llansadwrn]] arall. Ar ôl marwolaeth Sadwrn prioddodd Canna eto, gydag Alltu Redegog a chawsant ddau o blant [[Eilian]] a Thegfan.<ref name=":0" />
 
Mae Canna yn cael ei chysylltu gyda nifer o eglwysi ond gan fod y mwyafrif yn ne Cymru mae'n debyg y dylent cael ei chysylltu gyda rhai o ferched Brychan.