Thiamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
erthygl newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:19, 19 Hydref 2008

Adnabyddir y term cemegol hwn hefyd gan yr enwau fitamin B1 ac aneurine hydrochloride, sef teulu o foleciwlau sy'n rhannu yr un math o strwythur. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda formiwla gemegol o C12H17N4OS. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn dŵr, methanol a glyserol ond nid mewn aseton, ether, clorofform na bensen ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.


Yn y corff dynol, mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y system nerfol. Gall diffyg thiamin arwain at beriberi gyda phroblemau gyda'r galon a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis colli pwysau, 'malaise' a dryswch.