Santes Cynheiddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Bu gan dair o'r merched, Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon <ref name=":0" /> (neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor ac (ambell waith) Ciwa. Cymysgir nhw hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint fel nad oes modd eu gwahanu'n llwyr.
 
Roedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna), fodd bynnag, yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal [[Cydweli]], ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda [[Cymorth (santes)|Cymorth]], a oedd yn ferch neu'n nith iddi.<ref name=":0" /><ref name=":1" /> Yn Llangain ger aber afon Tywi mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd yno a bod y dŵr yn gwella pobl a oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Arferai'r claf daflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y gadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y driniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y [[19g]] ac mae'r ysgrifen ar y gadair yn amheus ond dywedir fod pant yn y garreg wedi'i greu gan y nifer o gleifion a oedd wedi eistedd arni.<ref name=":1" />
 
Aeth Ceinwen a Canna i Fôn <ref name=":1">Spencer.R. 1991, ''Saints of Wales and the West Country'', Llanerch</ref>.