Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Melangell"

Ychwanegwyd 96 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (→‎Hanes a thraddodiad: Ardddull a manion sillafu, replaced: ym Mhrydain → yng ngwledydd Prydain using AWB)
B
[[Delwedd:Pennant Melangell screen.png|bawd|Gwaith pren yn dylunio chwedl Brochwel; cofnod inc,
1903.]]
[[Sant]]es Gymreig o'r [[6ed ganrif|6ed]] neu'r [[7g]] oedd '''Melangell''' ([[Lladin]]: '''Monacella'''). Mae buchedd [[Lladin|Ladin]] iddi, ''Historia Divae Monacellae'', ar gael, yn dyddio o tua'r [[15g]]. Ei [[dydd gŵyl]] yw [[27 Mai]].
 
==Hanes a thraddodiad==
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon|Iwerddon.]] Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]] yn 590<ref name=":0">Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch</ref>. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwrthodasant y cŵn mynd ymlaen; rhedasanyrhedasant i ffwrdd dan ubain. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi.<ref name=":0" />
 
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath yng ngwledydd Prydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g.
1,137

golygiad