Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hindŵaeth"

Ychwanegwyd 929 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
Wedi ychwanegu rhagor o fanylion at y testun.
B (→‎Gweler hefyd: clean up)
B (Wedi ychwanegu rhagor o fanylion at y testun.)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
'''Hindŵaeth''' yw [[crefydd]] gynhenid [[is-gyfandir India]] a phrif grefydd [[India]] ei hun heddiw. Mae’n un o'r crefyddau hynaf a gychwynodd ryw bedair mil o flynyddoedd yn ôl.
 
Bydd rhai o ddilynwyr y grefydd hon yn addoli un duw yn unig, ond bydd eraill yn addoli llawer. Y duw pwysicaf oll yw [[Brahman]], ond nid yw’n bosibl i neb ei addoli yn uniongyrchol; mae’n rhaid agosáu ato drwy gyfrwng duwiau eraill megis [[Brahma]] y Creawdwr, [[Sifa]] y Dinistriwr neu [[Fisnw]] y Ceidwad sydd hefyd yn dduw cariad.
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn [[enaid]] tragwyddol, sef bod yr enaid yn cael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro. Maent hefyd yn addoli mewn Mandir.
 
Cred yr Hindŵ fod gan ddyn [[atman]] oddi wrth [[Brahman]], sef yr [[enaid]] tragwyddol sydd yn llifo drwy bob math o fywyd, boed anifail neu lysieuyn. Gall yr enaid hwn gael ei aileni mewn gwahanol ffurfiau dro ar ôl tro yn unol â chyfundrefn o wobrwyo a chosbi a elwir [[carma]].
 
Os bu bywyd dyn yn ddrwg, mae'n debyg mai fel planhigyn neu anifail y bydd ei enaid yn ailymddangos, a bydd yn rhaid i’r enaid wneud hyn sawl gwaith cyn cael trigo mewn corff dynol eilwaith. Os bu bywyd dyn yn un da a rhinweddol, bydd ei enaid yn symud yn agosach at yr hapusrwydd a ddaw o fod gyda [[Brahman]].
 
Maent hefyd yn addoli mewn [[Mandir]], sef math o [[deml]].
 
==Gweler hefyd==
81

golygiad