Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cywiriad
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi [[Llandrillo]] a [[Corwen|Chorwen]], gan godi i lethrau'r [[Berwyn]] i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o [[Teyrnas Powys|Bowys]].
 
Canolfan y plwyf oedd y [[llan]] lle ceir [[Eglwys Llangar]] heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o [[Penmorfa|Benmorfa]] yn [[Eifionydd]] yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78.