Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Antiochia"

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(→‎Enwogion: categoriau)
B
Roedd '''Antiochia ar yr Orontes''' ([[Groeg]]: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; [[Lladin]]: ''Antiochia ad Orontem''; yn ddinas ar lan ddwyreiniol [[Afon Orontes]], ar safle dinas fodern [[Antakya]], yn ne-orllewin [[Twrci]].
 
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y [[4ydd4edd ganrif CC]] gan [[Seleucus I Nicator]], un o gadfridogion [[Alecsander Fawr]]. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer [[Xenarius]] i efelychu dinas [[Alexandria]]. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn brifddinas yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]], yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwyrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad [[Cristionogaeth]].
 
Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl [[Rhufain]] ac Alexandria. Erbyn y [[4edd ganrif]], yn ôl [[Chrysostom]] roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.